Part of the debate – Senedd Cymru am 4:20 pm ar 16 Mai 2018.
Yn sicr, rwy'n croesawu'r fenter rydym yn ei thrafod heddiw i gyflwyno canllawiau cynllunio ar gyfer datblygiadau newydd er mwyn sicrhau bod yn rhaid i adeiladau newydd gynnwys pwyntiau gwefru ac i'w gwneud hi'n haws i bobl allu defnyddio cerbydau trydan er mwyn lleihau allyriadau carbon, er y dylid nodi nad yw cerbydau trydan eu hunain yn lleihau allyriadau carbon—yn syml, ffynhonnell wahanol o bŵer yw hi. Oni bai bod y ffynhonnell sylfaenol yn adnewyddadwy, nid yw ond yn symud y broblem i rywle arall, felly rwy'n credu y dylem fod yn ofalus ynglŷn â'r iaith a ddefnyddiwn. Bydd yn sicr yn gwella ansawdd aer lleol, ac mae hynny i'w groesawu, ond ni fydd effaith ar ansawdd aer cyffredinol ac allyriadau cyffredinol oni bai ein bod yn defnyddio ffynonellau ynni adnewyddadwy yn y lle cyntaf, felly rwy'n credu y dylem ychwanegu'r cafeat pwysig hwnnw.
Fel rwy'n deall, mae Llywodraeth Cymru yn cynnal ymgynghoriad ar bwyntiau gwefru cerbydau trydan yr haf hwn, ac eisoes maent yn cael adwaith gan rai datblygwyr ynglŷn â'r syniad o orfod darparu dwythellau. Buaswn yn annog y Llywodraeth i fod yn gadarn iawn ynglŷn â hyn a hefyd i arfer ei dychymyg—i ymchwilio gyda rhai o'r cwmnïau cynhyrchu pŵer y cyfle i dreialu dulliau gwahanol, lle y gellir gosod ffynonellau pwyntiau gwefru lle bydd pobl eraill yn ysgwyddo'r gost. Fel rwy'n deall, mae yna rai cwmnïau sydd â diddordeb mewn trafod hyn.
Mae angen inni hefyd feddwl am y math o wefru a flaenoriaethwn. A ydym yn blaenoriaethu technoleg gyfredol Nissan Leaf, er enghraifft, sy'n cymryd oddeutu pum neu chwe awr yn ôl yr hyn a ddeallaf i wefru, neu a ydym yn llamu ymlaen at y genhedlaeth nesaf o dechnolegau gwefru cyflym, a fydd yn gallu ei wneud mewn rhan fach o'r amser? Pa rai rydym yn dewis rhoi blaenoriaeth iddynt yn gyntaf?
Mae angen inni feddwl ble i'w rhoi yn ogystal. Dylem fod yn symud at ffurf lanach o drafnidiaeth, ond ni all hynny fod ar draul mathau cynaliadwy o drafnidiaeth. Rhaid inni ddweud ar y cychwyn, rwy'n meddwl, na ddylid caniatáu pwyntiau gwefru ar balmentydd, lle y gallent fod yn rhwystr i bobl gerdded a beicio ac i bobl anabl, ond rhaid iddynt fod ar ffyrdd.
Rwy'n credu hefyd fod yn rhaid inni ofyn i ni'n hunain: a ddylem fod yn cynllunio ar gyfer cyfnewid yr holl gerbydau petrol am gerbydau trydan, neu a allwn fanteisio ar y cyfle hwn, wrth i bobl newid, i geisio hybu dull o weithredu sy'n fwy deallus, gan ffafrio, er enghraifft, trafnidiaeth gyhoeddus a theithio llesol mewn ardaloedd trefol a chanolbwyntio ar gerbydau trydan mewn ardaloedd gwledig yn lle hynny? Credaf fod hyn yn rhywbeth y dylem ei ystyried.
Yn olaf, Lywydd, mae cerbydau trydan yn mynd i fod yn ddrud, a gallai hyn waethygu lefelau presennol o dlodi trafnidiaeth, lle y gorfodir pobl mewn teuluoedd incwm isel i fuddsoddi mewn rhedeg car i gyrraedd eu gwaith a gwasanaethau allweddol, a mynd i ddyled yn sgil hynny. Credaf y dylem edrych ar gyfleoedd i rannu ceir ar gyfer cerbydau trydan. Ceir rhai enghreifftiau o gynlluniau cydweithredol i rannu cerbydau trydan yn Nhyddewi ac ym Mhowys ar hyn o bryd. Cafwyd arbrawf gyda chlybiau hen geir yng Nghaerdydd, fel rhan o'r ddinas teithio cynaliadwy rai blynyddoedd yn ôl, ac mae hynny'n rhywbeth y credaf fod angen inni ei wneud yn gyflym, oherwydd mae'r rhain yn mynd i fod allan o gyrraedd llawer o deuluoedd, ac nid yw pob teulu angen car—mae'r rhan fwyaf o geir yn segur am 23 awr y dydd o flaen eu tai.
Felly, yn gyffredinol, wrth inni newid i dechnoleg wahanol, dylem achub ar y cyfle i newid ymddygiad yn ogystal.