Part of the debate – Senedd Cymru am 4:24 pm ar 16 Mai 2018.
Cytunaf â llawer o'r hyn a ddywedwyd yn awr gan Lee Waters, ond diolch i Rhun am gyflwyno hyn fel cynnig deddfwriaethol, ac yn sicr, rwy'n cytuno â'r amcan cyffredinol. Nid wyf yn siŵr a oes angen cyfrwng deddfwriaethol arnom, ond mae'n dda ein bod yn trafod y materion hyn.
Fel y dywedodd Lee Waters, mae angen inni gofio bod y ffordd rydym yn cynhyrchu ynni yn allweddol yma, ac mae newid i ffynonellau di-garbon yn wirioneddol hanfodol. Hefyd, mae'n hanfodol edrych ar dagfeydd mewn dinasoedd, ac ni fyddai hynny o reidrwydd yn cael ei ddatrys—neu ni fyddai'r gostyngiad yn digwydd o reidrwydd—pe baem ond yn cyfnewid y cerbydau petrol a diesel presennol am gerbydau trydan. Fodd bynnag, mae'n amlwg fod cerbydau trydan yn rhan bendant o'r ateb, yn wir, o fewn y fflyd drafnidiaeth gyhoeddus yn enwedig. Felly, credaf fod hon yn drafodaeth ddefnyddiol iawn ac mae'n un lle rwyf am weld Cymru'n symud ymlaen arni.
Fel y dywedodd Rhun, ar hyn o bryd, nid ydym yn cymharu'n arbennig o dda â rhannau eraill o'r DU. Yn 2012, 53 o geir trydan a geid yng Nghymru; roedd wedi codi i 1,523 erbyn 2016, sy'n gynnydd canrannol enfawr wrth gwrs ond credaf mai'r nifer absoliwt yw'r hyn y dylem edrych arno yma. Mae rhannau eraill o'r wlad wedi symud ymlaen yn gynt na ni hyd yma, felly mae angen inni edrych ar hyn. Mae'n ymwneud â ble y ceir pwyntiau gwefru cyflym. Credaf y bydd angen inni edrych ar adeiladau cyhoeddus yn gyntaf. Yn sicr mae angen inni edrych ar y rhwydwaith ffyrdd mawr oherwydd mae teithio rhwng Ynys Môn a Chaerdydd heb bwynt gwefru o bosibl yn broblem wirioneddol.
Felly, credaf fod angen i hyn fod yn rhan o strategaeth eang, ond yn sicr mae'n rhywbeth lle y credaf fod y cyhoedd yn mynd i'n gwthio hyd yn oed yn galetach nag yr ydym yn barod i fynd ar hyn o bryd. Mae angen i'r Llywodraeth ddechrau edrych ar y mater fel problem seilwaith, ac mae'r stoc enfawr o adeiladau cyhoeddus yn lle amlwg i ddechrau. Rydych eisoes yn ei weld mewn rhai datblygiadau—rwyf wedi sylwi arno o gwmpas Bro Morgannwg—lle mae tai newydd yn cynnwys pwyntiau gwefru fel nad oes gennych gebl hir a lletchwith i gefn eich garej, ond rydych yn gweld y pwynt gwefru o flaen y tŷ.
Felly, dyna lle bydd pobl yn mynnu gweld y farchnad yn mynd, rwy'n credu, ond mae angen inni hwyluso'r newid hwnnw yn ogystal. Felly, rwy'n falch fod hyn yn cael ei drafod ac mae gennyf feddwl agored iawn ynglŷn ag a ddylid gwneud hynny drwy ddeddfwriaeth, neu a oes dulliau polisi mwy traddodiadol y gallwn eu mabwysiadu.