7. Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod: Bil cynllunio gwefru cerbydau trydan

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:37 pm ar 16 Mai 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 4:37, 16 Mai 2018

(Cyfieithwyd)

mae yna nifer o bwyntiau a godwyd gan yr Aelodau yr hoffwn wneud sylwadau arnynt yn gyflym. Nododd Lee Waters a David Melding y pwynt fod yn rhaid i chi ddal i gynhyrchu trydan rywsut, ac nid yw hynny'n dda i ddim os ydych yn ei gynhyrchu drwy losgi tanwydd ffosil, er enghraifft. Mewn gwirionedd, yn sicr, mae angen inni symud tuag at gynhyrchu trydan di-garbon, ond mae'r cerbyd trydan ei hun yn llawer mwy effeithiol na'r peiriant tanio mewnol, felly hyd yn oed os ydych yn llosgi tanwydd ffosil, rhywbeth nad ydym eisiau ei wneud, mwy na thebyg y byddwch dair, pedair, pump, chwech neu saith gwaith yn fwy effeithlon o gael cerbyd trydan yn trosglwyddo'r pŵer ar y ffordd yn hytrach na char petrol neu ddisel.