Part of the debate – Senedd Cymru am 4:38 pm ar 16 Mai 2018.
Rwy'n ddiolchgar ichi am ganiatáu imi ymyrryd, oherwydd mewn gwirionedd, rwy'n creu bod hwn yn bwynt pwysig iawn. Roeddwn yn arswydo o weld y rhaglen Dispatches fis diwethaf yn datgelu'r ffaith bod Llywodraeth y DU yn defnyddio ein hardoll werthfawr ar ein biliau trydan i gael pelenni pren, wedi'u gwneud o bren caled yn lle glo yng ngorsaf pŵer Drax, sy'n amlwg yn un o'r gorsafoedd pŵer mwyaf yn y DU, a bod hyn yn creu mwy o garbon na'r glo mewn gwirionedd. Hynny yw, mae hynny'n gwbl syfrdanol. Felly, roeddwn yn gobeithio y gallem—. Methais â chynnwys gwelliant i'ch tri phwynt. Credaf fod angen pedwerydd pwynt, yn dweud bod angen inni gael rhwydwaith o bwyntiau gwefru adnewyddadwy wedi'u cynhyrchu gan ynni adnewyddadwy, a gobeithio gan ynni adnewyddadwy a gynhyrchir yn lleol, fel y gallwn osgoi'r problemau rhwydwaith y cyfeiriodd Simon Thomas atynt.