8. Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Canser y coluddyn

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:22 pm ar 16 Mai 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 5:22, 16 Mai 2018

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd, a diolch i bawb sydd wedi cyfrannu i'r ddadl yma prynhawn yma. Rydw i'n hynod o falch ein bod ni wedi cael y cyfle i roi hyn ar agenda y Cynulliad y prynhawn yma. Mae cyfres o gyfranwyr ar draws y pleidiau gwleidyddol wedi disgrifio yn glir iawn yr angen i sicrhau diagnosis cynnar, y pwysigrwydd o godi ymwybyddiaeth, yr angen i gydnabod a dathlu rhagoriaeth ein staff, sydd yn gwneud popeth y gallan nhw o fewn ein gwasanaeth iechyd ni yn y maes yma, ac wedi pwysleisio, wrth gwrs, y rôl gwbl allweddol y mae sgrinio yn gallu chwarae wrth daclo'r canser yma, un o'r mathau mwyaf creulon o ganser, sy'n cymryd mwy o fywydau yng Nghymru na bron bob canser arall. Ond rydym ni i gyd yn credu—ac rydych chi wedi ein clywed ni heddiw, Ysgrifennydd y Cabinet—bod modd gwneud mwy.