Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:33 pm ar 22 Mai 2018.
[Anghlywadwy.]—Llywodraeth y DU yw'r llanastr y maen nhw'n ei wneud o'r system budd-daliadau, yn enwedig o ran y credyd cynhwysol, a fydd yn effeithio yn anghymesur ac yn negyddol iawn ar gynifer o bobl yng Nghymru. Rydym ni wedi gweld credydau treth mewn gwaith yn cael eu diddymu hefyd. Nid yw hynny wedi helpu pobl o ran eu hincwm. Rydym ni wedi gweld, er enghraifft, Llywodraeth y DU yn gwrthod ariannu Cymru yn briodol, ac, yn wir, mae Llywodraeth y DU wedi rhoi £1 biliwn i Ogledd Iwerddon, tra bod Cymru wedi cael dim byd o gwbl. Mae llawer iawn o waith yr wyf i'n credu y gall yr Aelod ei wneud gyda'i blaid ei hun o ran gwneud yn siŵr bod Cymru yn cael tegwch, oherwydd nid ydym ni'n ei gael gan y Torïaid.