Y Cyflog Byw Go Iawn

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:34 pm ar 22 Mai 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Rowlands David Rowlands UKIP 1:34, 22 Mai 2018

(Cyfieithwyd)

Prif Weinidog, un o hanfodion economeg yw'r ddeddf cyflenwad a galw. Os bydd y cyflenwad yn fwy na'r galw, bydd pris nwydd yn gostwng. Mae hyn yr un mor berthnasol i'r cyflenwad o lafur ag unrhyw nwydd arall. A yw'r Prif Weinidog yn cytuno â mi mai gorgyflenwad llafur rhad, yn enwedig yn y farchnad lled-grefftus a di-grefft, wedi ei achosi gan fewnfudo heb reolaeth ar raddfa fawr, sydd wedi caniatáu i fusnesau mawr gamfanteisio ar weithwyr gyda chyflogau isel?