Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:48 pm ar 22 Mai 2018.
Felly, mae'r ysgogwyr hyn yn bodoli, ond eto nid ydych chi eisiau rheolaeth drostyn nhw. Rydych chi'n sôn am strategaethau, ac rydych chi'n cwyno am bolisïau lles y Torïaid, er mai eich unrhyw weithred chi mewn gwirionedd yw torri'r budd-daliadau y mae eich Llywodraeth eich hun yn gyfrifol amdanynt: torri'r grant gwisg ysgol; torri'r grant byw'n annibynnol; torri'r grant gwella addysg; torri Cymunedau yn Gyntaf. Mae traean o blant Cymru yn byw mewn tlodi, mae miloedd yn dibynnu ar fanciau bwyd am bryd digonol o fwyd, a dyma'r gorau y gallwch chi ei wneud. Prif Weinidog, mae gen i gwestiwn syml: a ydych chi'n barod i gymryd cyfrifoldeb neu a ydych chi'n hapus i barhau i roi'r bai ar y Torïaid yn San Steffan?