Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:10 pm ar 22 Mai 2018.
Diolch am yr ateb yna. Prif Weinidog, rwy'n deall bod Llywodraeth y DU wrthi'n trafod y pecyn ariannu ar gyfer Wylfa Newydd gyda Hitachi ar hyn o bryd, a bod y canlyniadau yn y fantol ar hyn o bryd. Byddwch yn gwybod bod pobl y gogledd yn aros yn amyneddgar am y swyddi adeiladu yn yr orsaf bŵer ac yn y gadwyn gyflenwi a fydd yn cael ei chreu gan y cynllun hwn. Pa eiriau o gysur allwch chi eu cynnig iddyn nhw?