Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:09 pm ar 22 Mai 2018.
Llywodraeth y DU sy'n gyfrifol am ddatblygu polisi niwclear. Rydym ni'n cefnogi niwclear newydd ar safleoedd presennol i sicrhau'r manteision etifeddiaeth mwyaf posibl o unrhyw fuddsoddiad arfaethedig. Felly, mae'n golygu cynnal gorsaf bŵer yn y lle iawn yn ogystal â thwf cadwyn gyflenwi a datblygu sgiliau ac ymchwil, gan ddiogelu ein treftadaeth ddiwylliannol a'n hamgylchedd ar yr un pryd.