Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:56 pm ar 22 Mai 2018.
Wel, o beth rwy'n gallu ei weld, daeth hwn o rywbeth a gaeth ei ddweud gan unigolyn nad oedd â chysylltiad â'r Llywodraeth, ddim yn aelod o'r Llywodraeth nac yn rhywun oedd yn gweithio fel gwas sifil i'r Llywodraeth. Fel y dywedais yn y Siambr hon wythnos diwethaf, mae Castell-nedd yn orsaf bwysig dros ben ac nid oes unrhyw fath o fygythiad i wasanaethau yng Nghastell-nedd.