Gwasanaethau Rheilffyrdd yn Ne Cymru

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:57 pm ar 22 Mai 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of John Griffiths John Griffiths Labour 1:57, 22 Mai 2018

(Cyfieithwyd)

Prif Weinidog, byddwch yn ymwybodol o'r rhwystredigaeth fawr ynghylch y diffyg cynnydd o ran sefydlu gwasanaeth trên cyswllt rheilffordd i deithwyr o Gasnewydd i Lynebwy. Mae hynny wedi bod yn wir ers cryn amser, ac mae llawer iawn o bryder yn yr ardal. O ystyried y cysylltiadau economaidd, cymdeithasol a diwylliannol hirsefydlog rhwng Casnewydd a Glynebwy, a ydych chi'n deall y pryderon hynny ac a oes unrhyw beth y gallwch chi ei ddweud heddiw a fyddai'n tawelu meddwl y rhai sydd â'r pryderon hyn?