Part of the debate – Senedd Cymru am 3:16 pm ar 22 Mai 2018.
A gaf i ddiolch Jack Sargeant am ei gyfraniad? Roedd hi'n bleser gallu ymuno ag ef yn ei uwchgynhadledd ffyniant a swyddi diweddar ac yn lansiad y sefydliad ymchwil a gweithgynhyrchu uwch, lle torrwyd y dywarchen, ac a fydd yn sefydliad ymchwil o'r radd flaenaf gan gyfrannu tua £4 biliwn mewn gwerth ychwanegol crynswth i'r economi rhanbarthol.
Rwy'n gwybod fod hwn yn gynllun penodol y bu Aelodau eraill yn awyddus i ddysgu mwy yn ei gylch—rwy'n gwybod bod Steffan Lewis wedi sôn amdano beth amser yn ôl yn y Siambr. Mae'n enghraifft wych o sut y mae Llywodraeth Cymru wedi gallu ymateb i alwadau'r ardal fenter leol. Mae hyn, efallai, yn enghraifft o'r gwaith da a all ddod o weithgarwch yr ardaloedd menter, y cyfeiriwyd ato gan Russell George. Heb fwrdd ardal menter Glannau Dyfrdwy, ni fyddai'r prosiect hwn yn y sefyllfa y mae ynddi heddiw—mae'n debyg na fyddem ni wedi ei ystyried. Roedd hwn yn brosiect pwrpasol penodol a gyflwynwyd gan Fwrdd a oedd yn gweithredu mewn ffordd ddeinamig a gwybodus iawn.
Roeddwn hefyd yn falch, ar yr un diwrnod, o lansio Canolfan Menter Wrecsam—canolfan a gefnogir gennym ni, Lywodraeth Cymru, a fydd yn creu 100 o fusnesau newydd ac y disgwylir iddo greu 260 o swyddi newydd. Mae'n deg dweud na fydd llawer o'r busnesau hynny yn datblygu i fod yn arwyddocaol o ran maint, ac efallai y bydd rhai methiannau—byddem yn disgwyl hynny. Fodd bynnag, dim ond un neu ddau o'r busnesau sy'n cael eu creu yn y ganolfan sydd angen bod fel y Moneypenny neu'r Chetwood Financial newydd er mwyn cyfiawnhau nid yn unig ein cyfraniad ariannol, ond hefyd ychwanegu'n sylweddol at y gyfradd gyflogaeth yn ardal Wrecsam. Mae'r rhain yn ddwy enghraifft dda iawn o sut y mae Llywodraeth Cymru yn defnyddio arian yn strategol a doeth er mwyn sbarduno diwydiannau yfory. Mae'r materion penodol hynny yn cydymffurfio'n berffaith â'r contract economaidd a'r galwadau i weithredu, gyda phwyslais clir ar ymchwil a datblygu, sgiliau, entrepreneuriaeth a chroesawu technoleg ddigidol newydd.
Yr wythnos hon, rydym wedi gweld yr Ŵyl Ddigidol yn cael ei chynnal yng Nghanolfan Mileniwm Cymru. Mae hynny'n ddigwyddiad penodol sy'n tyfu o flwyddyn i flwyddyn. Fe'i hadwaenir bellach nid yn unig fel gŵyl ddigidol i Gymru ond fel gŵyl ryngwladol sydd yn digwydd yng Nghymru, cystal yw safon y bobl sy'n dod yno o bedwar ban byd. Rwy'n credu bod presenoldeb gŵyl o'r fath yng Nghymru yn flynyddol yn amlygu sut mae'r sector technoleg sy'n ymddangos yng Nghymru yn parhau i fynd o nerth i nerth, yn aml gyda chymorth uniongyrchol drwy Busnes Cymru neu drwy ein rheolwyr datblygu busnes.
Rwy'n credu hefyd bod enghraifft wych arall o sut yr ydym ni'n buddsoddi yn niwydiannau yfory—cofleidio awtomatiaeth a chroesawu deallusrwydd artiffisial—i'w gweld yn y buddsoddiad yr ydym yn ei wneud ym menter y Cymoedd Technoleg, gyda £25 miliwn dros y tair blynedd nesaf a £100 miliwn dros y degawd nesaf, wedi'i gynllunio i ddenu busnesau ac i dyfu a sefydlu busnesau hollol newydd yng Nghymru yn seiliedig ar dechnoleg ac ar dechnoleg ddigidol sy'n datblygu. Wedi ei chynnwys yn y rhanbarth penodol hwnnw, yn y maes hwn o weithgarwch, fydd canolfan menter nid annhebyg i'r un a agorais yn Wrecsam.
Roedd gennyf ddiddordeb arbennig i ddysgu am y cynnig ar gyfer canolfannau gigabeit yn y gogledd. Credaf y gallai hwn fod yn brosiect y dylai bwrdd y fargen twf ei ystyried yn y gogledd, nid yn lleiaf oherwydd byddai'n asio gyda rhai o'r rhaglenni sy'n cael eu hystyried yn union dros y ffin, a bu cyfeiriad clir iawn y dylai unrhyw fargen twf yn y gogledd asio gyda'r fargen twf ym mhartneriaeth menter leol swydd Gaer a Warrington er mwyn elwa ar gydweithio a chydweithredu, ac i osgoi unrhyw gystadlu diangen.
O ran datblygu economaidd rhanbarthol, rwy'n gwybod bod yr Aelod yn awyddus iawn i sicrhau bod y gogledd yn cael ei chyfran deg. Bydd ail gam y cynllun gweithredu yn ymwneud â datblygu economaidd rhanbarthol a datblygu cynlluniau economaidd rhanbarthol, a gynlluniwyd i rymuso rhanbarthau Cymru ac i sicrhau bod awdurdodau lleol, Llywodraeth Cymru, busnesau a rhanddeiliaid eraill i gyd yn buddsoddi yn y meysydd o arbenigedd sy'n bodoli ar hyn o bryd, ac mewn meysydd o weithgarwch economaidd a fydd yn barod ar gyfer y dyfodol.