Part of the debate – Senedd Cymru am 3:06 pm ar 22 Mai 2018.
Rydym bob amser yn croesawu unrhyw syniadau newydd mewn strategaeth economaidd a bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn ymwybodol fy mod i fy hun yn ceisio ymgysylltu'n gadarnhaol gydag ef. Mae er lles pob un ohonom ni, yn wir, y cyflawnir y nodau lefel uchel sydd wrth wraidd unrhyw strategaeth economaidd. Ond, mae'n rhaid imi ddweud, os mai'r hyn a gawn yw ymestyniad parhaus o gyfres o ddatganiadau annelwig, bydd y brwdfrydedd cychwynnol hwnnw, bod newid patrwm gwirioneddol yn y ffordd o feddwl yma, yn mynd ar ddisberod yn fuan iawn, a'r hyn fyddai ar ôl yw ymdeimlad cynyddol mai cynllun segurdod economaidd yw hwn.
A gaf i ofyn iddo—? Nid oedd fawr ddim manylion mewn gwirionedd yn y datganiad a ddarllenodd nac yn y datganiad i'r wasg. A oes unrhyw beth mwy na hynny? A oes mwy o fanylion yn y dogfennau ynghylch yr alwad i weithredu, ar y contract economaidd, ac ynglŷn â chronfa economi y dyfodol? Ac, os yw'r dogfennau hynny yn bodoli, pam nad ydyn nhw gyda ni, fel y gallwn ofyn cwestiynau mwy deallus ichi? Rwy'n credu bod ein Rheolau Sefydlog ein hunain, mewn gwirionedd, yn mynnu os yw datganiad yn cyfeirio at ddogfennau Llywodraeth yna rhaid eu darparu i'r holl Aelodau. Nawr, rwyf wedi gweld bod gan yr Aelodau Llafur, yn wir, ryw ddogfen sgleiniog ynglŷn â'r cynllun gweithredu economaidd, y gallai Ysgrifennydd y Cabinet o bosibl ei chodi. Wel, efallai y gall gadarnhau na roddwyd copi ymlaen llaw i'r Aelodau Llafur yng nghyfarfod y grŵp Llafur, oherwydd y byddai hynny, yn wir, yn gamddefnydd o adnoddau'r Llywodraeth. Mae angen i bawb ohonom fod yn rhan o ddatblygiad polisi'r Llywodraeth.
O ran manylion yr hyn a ddywedodd, y bwrdd cyflawni trawslywodraethol a grybwyllodd—a all esbonio i mi sut mae hynny'n wahanol i, neu a yw'n disodli, y bwrdd cyflawni a pherfformio strategol, a oedd, yn sicr hyd yn ddiweddar, yn cael ei gadeirio gan yr Ysgrifennydd Parhaol? A sut mae'n wahanol i'r uned gyflawni, uned gyflawni Prif Weinidog Cymru, a lansiwyd gyda ffanffer mawr yn 2011 ac yna a ddiflannodd, gydag ochenaid, yn 2016? Onid oes perygl ein bod ni wedi gwneud hyn i gyd o'r blaen? A ble mae'r ymdeimlad o frys, Ysgrifennydd y Cabinet, yn yr hyn yr ydych chi wedi'i ddweud heddiw a beth yr ydych wedi ei ddweud o'r blaen? Mae cyfleoedd gwych: y cyfraddau llog isaf mewn hanes, cynnydd enfawr—mae'n rhaid ichi ganmol Llywodraeth y DU—o ran ymchwil a datblygu, y buddsoddiad ymchwil a datblygu mwyaf a welsom ni erioed yn y DU, a'r holl bosibiliadau o ran technoleg, diwydiant 4.0. A ydym yn deall hynny, a ble mae'r brys o ran beth a ddywedodd? Ac, yn wir, ynglŷn â mesur hefyd, sut allwn ni gael yr her allweddol y cyfeiriodd ato o ran y bwrdd cynghori gweinidogol os nad ydym yn glir beth yr ydym ni yn ei fesur?
Yn olaf, dywedodd y Prif Weinidog yn gynharach fod adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn adroddiad difrifol, ac y bydd cyfle i'r Llywodraeth ymateb yn llawn. Ond dywed fod y prosiect wedi creu
'argraff gref ar y Pwyllgor o adran'— ei adran ef—
'nad oedd ganddi reolaeth briodol dros ei busnes'.
A yw'r newidiadau a gyhoeddwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet heddiw yn gyfaddefiad gonest fod hon yn adran nad yw'n gweithio fel y dylai, ac onid y cam cyntaf ar gyfer newid hynny yw cyfaddefiad o fethiant blaenorol?