Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 1:40 pm ar 23 Mai 2018.
Credaf eich bod yn llygad eich lle; mae angen inni wneud mwy o lawer i sicrhau bod pobl yn deall bod prentisiaethau yn llwybr dilys i swyddi o safon. Mae gennym gyfres gyfan o fentrau sy'n ein cynorthwyo i geisio denu pobl, yn arbennig at rai o'r pynciau STEM y sonioch amdanynt yn gynharach, i sicrhau eu bod yn ymateb i'r hyn sydd ei angen ar yr economi. Felly, mae gennym gyfres gyfan o fentrau. Un o'r rhai gorau yw rhywbeth a elwir yn Rhowch Gynnig Arni, lle rydym yn gwahodd miloedd o blant ysgol, yn llythrennol, i brofi eu gallu i weithio ac i ymroi mewn ffordd fwy ymarferol gyda sgiliau galwedigaethol. Credaf fod hynny eisoes yn cael effaith, ond rydym yn ceisio gwneud mwy o lawer i gynorthwyo'r gwasanaeth gyrfaoedd yng Nghymru i sicrhau eu bod yn darparu'r sgiliau sydd ganddynt i'r ysgolion fel y gallant roi'r cyngor y soniwch amdano.