Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 1:39 pm ar 23 Mai 2018.
Mae gan Lywodraeth Cymru darged o 100,000 o brentisiaethau newydd o ansawdd uchel. Credaf y byddai nifer y bobl ar brentisiaeth yng Nghymru yn cynyddu pe bai'r manteision a allai ddeillio ohonynt yn cael eu hegluro i bobl yn gynnar ac ar oedran cynnar hefyd. Mae gwybodaeth dda am yrfaoedd yn yr ysgol yn hanfodol, ond ceir problemau hefyd gydag ansawdd ac argaeledd cyngor ar yrfaoedd, gan gynnwys diffyg cynghorwyr gyrfaoedd hyfforddedig a diffyg gwybodaeth am brentisiaethau a hyfforddiant galwedigaethol gan staff yr ysgol. Beth y mae'r Gweinidog yn ei wneud i wella ansawdd cyngor ar yrfaoedd ac i sicrhau y caiff prentisiaethau eu hyrwyddo'n briodol yma yng Nghymru?