Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 2:00 pm ar 23 Mai 2018.
Mae clybiau brecwast yn darparu brecwast iach ac amrywiol i blant, cyfle i ryngweithio'n gymdeithasol a chymorth i rieni, yn enwedig y rheini sy'n gweithio ac yn dibynnu ar glybiau brecwast fel ffordd o gael gofal plant fforddiadwy a dibynadwy. Mewn adroddiad diweddar, mynegwyd pryderon gan rai rhieni fod plant yn cael ychwanegu siwgr at rawnfwydydd brecwast, gyda rhai ohonynt eisoes yn cynnwys cryn dipyn o siwgr. Pa ganllawiau y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'u cyhoeddi i ysgolion ynghylch monitro faint o siwgr y mae disgyblion yn ei fwyta mewn clybiau brecwast, os gwelwch yn dda?