Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 2:01 pm ar 23 Mai 2018.
Bydd yr Aelod yn gwybod bod gennym reoliadau eithaf llym ynglŷn â natur iach y bwydydd y dylid eu rhoi i blant yn yr ysgol. Gŵyr pob un ohonom am y niwed y gall deiet sy'n uchel mewn siwgr ei wneud i bob un ohonom, ac rwy'n siŵr y byddai pob un ohonom yn dymuno, os yw plant yn cael brecwast am ddim yn yr ysgol, ei fod o safon maethol uchel ac nad yw'n un sy'n ychwanegu calorïau gwag at eu deiet.