1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru ar 23 Mai 2018.
4. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am bwysigrwydd clybiau brecwast mewn ysgolion? OAQ52230
Diolch, Dawn. Mae clybiau brecwast mewn ysgolion yn rhan annatod o waith ehangach Llywodraeth Cymru i wella bwyd a maetheg mewn ysgolion. Eu bwriad yw cynorthwyo i wella iechyd a gallu plant i ganolbwyntio yn ystod y diwrnod ysgol gan roi dechrau iach i'r diwrnod hwnnw i'r plant.
Diolch am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Efallai nad ydych yn ymwybodol, ond yr wythnos hon, mae Cyngor Merthyr Tudful wedi dechrau cyfnod ymgynghori statudol o 45 diwrnod gydag undebau llafur ynghylch toriadau i'r gwasanaeth hanfodol a ddarperir gan glybiau brecwast ledled y fwrdeistref. Mae oddeutu 150 o staff yn debygol o gael eu heffeithio gan y toriad arfaethedig hwn; menywod ydynt yn bennaf, gweithwyr rhan amser ac ar gyflogau isel. Credaf ei bod yn bwysig nodi bod angen ystyried y toriadau hyn yng nghyd-destun awdurdod lleol sy'n dal i fod ag ardaloedd â lefelau amddifadedd sydd ymysg y rhai uchaf yn y DU, heb sôn am Gymru. O gofio'r hyn rydych wedi'i ddweud am fanteision clybiau brecwast, rwy'n siŵr y byddwch yn cytuno bod y toriadau arfaethedig hyn, law yn llaw â gostyngiad o £465,000 i'r cyllidebau ysgolion eleni'n unig y soniais wrthych amdanynt yn flaenorol, yn fygythiad i gyfleoedd bywyd a lles plant lleol, gyda rhai ohonynt yn byw yn ein cymunedau tlotaf. Fodd bynnag, ers gosod y gyllideb, ymddengys bod y cyngor erbyn hyn wedi dod o hyd i arian ar gyfer pethau eraill, megis torri gwair, ac er bod hynny'n ddymunol, ni chredaf y gall fod mor bwysig â chynnal gwasanaeth clybiau brecwast ar ei lefelau presennol. Felly, o gofio pa mor bwysig yw'r mater hwn yn eich barn chi, hoffwn wybod beth fyddech yn ei wneud i sicrhau y caiff y penderfyniad annoeth hwn ei wrthdroi.
Wel, Dawn, Cymru oedd y gyntaf o'r gwledydd cartref i gyflwyno brecwast am ddim mewn ysgolion cynradd yn 2004 ac o dan Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013, mae gan awdurdodau lleol ddyletswydd i sicrhau bod darpariaeth brecwast am ddim mewn ysgolion cynradd yn parhau. Fi fyddai'r cyntaf i gyfaddef i mi fod yn amheus iawn o gyflwyno brecwast am ddim mewn ysgolion, ond mae ymchwil annibynnol a wnaed gan Brifysgol Caerdydd wedi dangos, ac yn sicr wedi fy argyhoeddi, fod darparu brecwast am ddim yn cael effaith ar gyrhaeddiad addysgol mewn gwirionedd. Mae angen inni wneud popeth a allwn i sicrhau nad yw'r budd hwnnw i blant yn cael ei golli, nid ym Merthyr Tudful nac yn unman arall yng Nghymru. Mae'n siomedig darllen adroddiadau yn y cyfryngau lleol ei bod yn ymddangos bod dewis wedi'i wneud i flaenoriaethu torri gwair, fel y dywedoch, er fy mod yn siŵr fod taer angen gwneud hynny, ond mae'n anodd deall pam fod hynny'n flaenoriaeth ar gyfer yr awdurdod lleol hwn yn hytrach na pholisi sy'n seiliedig ar dystiolaeth fod buddsoddi mewn brecwast mewn ysgolion yn cynorthwyo plant i wneud yn well. Mae hynny'n arbennig o wir am blant o gefndiroedd tlotach, am ba reswm bynnag, y mae eu teuluoedd o bosibl yn ei chael hi'n anodd rhoi'r dechrau iach i'r dydd sydd ei angen arnynt.
Mae clybiau brecwast yn darparu brecwast iach ac amrywiol i blant, cyfle i ryngweithio'n gymdeithasol a chymorth i rieni, yn enwedig y rheini sy'n gweithio ac yn dibynnu ar glybiau brecwast fel ffordd o gael gofal plant fforddiadwy a dibynadwy. Mewn adroddiad diweddar, mynegwyd pryderon gan rai rhieni fod plant yn cael ychwanegu siwgr at rawnfwydydd brecwast, gyda rhai ohonynt eisoes yn cynnwys cryn dipyn o siwgr. Pa ganllawiau y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'u cyhoeddi i ysgolion ynghylch monitro faint o siwgr y mae disgyblion yn ei fwyta mewn clybiau brecwast, os gwelwch yn dda?
Bydd yr Aelod yn gwybod bod gennym reoliadau eithaf llym ynglŷn â natur iach y bwydydd y dylid eu rhoi i blant yn yr ysgol. Gŵyr pob un ohonom am y niwed y gall deiet sy'n uchel mewn siwgr ei wneud i bob un ohonom, ac rwy'n siŵr y byddai pob un ohonom yn dymuno, os yw plant yn cael brecwast am ddim yn yr ysgol, ei fod o safon maethol uchel ac nad yw'n un sy'n ychwanegu calorïau gwag at eu deiet.