Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 1:57 pm ar 23 Mai 2018.
Diolch am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Efallai nad ydych yn ymwybodol, ond yr wythnos hon, mae Cyngor Merthyr Tudful wedi dechrau cyfnod ymgynghori statudol o 45 diwrnod gydag undebau llafur ynghylch toriadau i'r gwasanaeth hanfodol a ddarperir gan glybiau brecwast ledled y fwrdeistref. Mae oddeutu 150 o staff yn debygol o gael eu heffeithio gan y toriad arfaethedig hwn; menywod ydynt yn bennaf, gweithwyr rhan amser ac ar gyflogau isel. Credaf ei bod yn bwysig nodi bod angen ystyried y toriadau hyn yng nghyd-destun awdurdod lleol sy'n dal i fod ag ardaloedd â lefelau amddifadedd sydd ymysg y rhai uchaf yn y DU, heb sôn am Gymru. O gofio'r hyn rydych wedi'i ddweud am fanteision clybiau brecwast, rwy'n siŵr y byddwch yn cytuno bod y toriadau arfaethedig hyn, law yn llaw â gostyngiad o £465,000 i'r cyllidebau ysgolion eleni'n unig y soniais wrthych amdanynt yn flaenorol, yn fygythiad i gyfleoedd bywyd a lles plant lleol, gyda rhai ohonynt yn byw yn ein cymunedau tlotaf. Fodd bynnag, ers gosod y gyllideb, ymddengys bod y cyngor erbyn hyn wedi dod o hyd i arian ar gyfer pethau eraill, megis torri gwair, ac er bod hynny'n ddymunol, ni chredaf y gall fod mor bwysig â chynnal gwasanaeth clybiau brecwast ar ei lefelau presennol. Felly, o gofio pa mor bwysig yw'r mater hwn yn eich barn chi, hoffwn wybod beth fyddech yn ei wneud i sicrhau y caiff y penderfyniad annoeth hwn ei wrthdroi.