1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru ar 23 Mai 2018.
5. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am wariant cyfalaf ar ysgolion yn y flwyddyn ariannol nesaf? OAQ52238
Diolch yn fawr, Llyr. Bydd £133 miliwn o gyfalaf ar gael i ysgolion y flwyddyn nesaf, a bydd ein partneriaid yn darparu arian cyfatebol. Mae rhaglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain yn gweithredu cyfres o donnau buddsoddi dros flynyddoedd ariannol, gyda'r don gyntaf yn darparu £1.4 biliwn ac ail don rhaglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain a fydd yn dechrau yn 2019 yn darparu £2.3 biliwn arall.
Mae cynghorwyr wedi cysylltu â fi yn poeni, a dweud y gwir, fod y cynghorau ddim ond yn cael mis i baratoi bids ar gyfer y grant cyfalaf eleni, sy'n dod allan o danwariant y flwyddyn ddiwethaf, a bod y bids hynny’n gorfod bod ar y sail bod yna sicrwydd eu bod nhw’n gwario'r arian yn ystod y flwyddyn ariannol bresennol. Nawr, rŷm ni wedi bod yn trafod prinder cyllid cyhoeddus, felly mae'n gwbl allweddol ein bod ni'n cael y gorau gallwn ni allan o bob ceiniog. Felly—rydw i’n siŵr eich bod chi'n rhannu fy rhwystredigaeth mai fel hyn y mae hi mewn sefyllfa fel hyn—beth fyddwch chi'n ei wneud i sicrhau nad yw cynghorau yn gorfod sgrablo rhyw gynlluniau at ei gilydd er mwyn symud y pres yn y flwyddyn ariannol nesaf?
Wel, yn amlwg, rydym bob amser yn awyddus i roi cymaint o rybudd â phosibl i awdurdodau lleol ynglŷn â'r arian sydd ar gael. Weithiau, gyda'r holl ewyllys da yn y byd, gall adnoddau ychwanegol ddod ar gael, a chyda dyhead—fel y dywedais yr hoffwn ei wneud yn gynharach—i sicrhau bod cymaint o arian â phosibl yn cyrraedd y rheng flaen, weithiau mae arnom angen penderfyniad cyflym a chyflwyno cynigion yn cyflym er mwyn caniatáu inni wario arian nad oeddem wedi disgwyl y byddai ar gael inni yn ystod y flwyddyn. Nid wyf yn barod i adael i berffeithrwydd fod yn elyn i'r da, ac yn yr achos hwn, rwyf am i'r da hwnnw fod yn fwy o arian i'r rheng flaen.
Ysgrifennydd y Cabinet, mae Llywodraeth Cymru wedi darparu cryn dipyn o gyfalaf i raglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain. Rydych wedi gweld Ysgol Awel y Môr ac Ysgol Bae Baglan yn fy etholaeth i, dwy ysgol newydd sbon sydd ar agor eisoes a thair ysgol newydd a fydd yn agor ym mis Medi, Ysgol Cwm Brombil, Ysgol Gymraeg Bro Dur a'r ysgol gynradd newydd yn Llansawel. Fodd bynnag, mae mater yn codi ynglŷn ag agweddau ar gynnal a chadw rhai o'r ysgolion. Yn aml iawn, rydym yn gweld bod llawer o ysgolion nad oes cynigion i adeiladu ysgolion newydd yn eu lle mewn sefyllfa anodd iawn gan y dywedir wrthynt fod angen gwneud gwerth £3 miliwn o waith cynnal a chadw arnynt. Er enghraifft, mae ysgol Cymer Afan yn un o'r ysgolion y maent yn honni bod angen hynny arnynt. Beth rydych yn ei wneud i asesu'r gost o gynnal a chadw'r ysgolion fel y gallwn nid yn unig gael yr ysgolion newydd sbon, ond sicrhau hefyd fod yr ysgolion nad oes ysgolion newydd i ddod yn eu lle yn cyrraedd y safon?
Diolch yn fawr iawn am eich cwestiwn. Rydym yn gwneud dau beth. Rydym wedi darparu £14 miliwn ar ddiwedd y flwyddyn ariannol ddiwethaf i ysgolion ledled Cymru er mwyn cynorthwyo i dalu rhai costau cynnal a chadw ar raddfa fach. Roedd hwnnw'n arian a ddaeth ar gael ac fe lwyddasom i'w ddarparu i ysgolion cyn gynted ag y gallem. Mae hefyd yn bwysig nodi, wrth i awdurdodau lleol baratoi eu cynigion ar gyfer band B rhaglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain—fel y dywedais, rhaglen a fydd yn sicrhau bod dros £2 biliwn yn cael ei fuddsoddi yn adeiladau ein hysgolion a'n colegau—fod un o'r mecanweithiau newydd ar gyfer dosbarthu'r arian hwnnw yn caniatáu i gontract cynnal a chadw fod yn rhan o'r cais, felly byddai'r costau cynnal a chadw yn cael eu talu am dros ugain mlynedd wedi i'r ysgol gael ei hadeiladu, ac mae llawer o awdurdodau lleol yn edrych ar y mecanwaith hwnnw er mwyn mynd i'r afael â'r union bwynt y soniwch amdano.
Ysgrifennydd y Cabinet, cofiaf i'r archwilydd cyffredinol edrych ar ysgolion yr unfed ganrif ar hugain yn yr adroddiad a gyhoeddwyd ym mis Mai y llynedd, ac yn yr adroddiad, er ei fod yn gefnogol i'r prosiect ar y cyfan ac o'r farn fod yr arian wedi'i wario'n dda i raddau helaeth, argymhellodd y dylid gwneud rhai addasiadau pe bai'r arian neu'r dull yn newid ar gyfer y band buddsoddi nesaf.
Mae band B yn canolbwyntio i raddau llai ar leihau nifer y lleoedd gwag ac i raddau mwy ar wella cyflwr ystâd yr ysgol ei hun, yn ogystal â chynyddu ymgysylltiad cymunedol. A allwch ddweud wrthym—? Yn aml, mae'r ysgolion hyn yn fwy nag ysgolion yn unig, maent yn adeiladau gwych sydd â lle canolog yn eu cymunedau. A allwch ddweud wrthym pa gyngor rydych yn ei roi i awdurdodau addysg lleol er mwyn sicrhau eu bod yn ganolog i'r gymuned go iawn, a bod y gymuned leol yn elwa cymaint â phosibl o'r adeiladau hynny ac yn cael gwerth am arian?
Diolch, Nick. Rydych yn codi pwynt pwysig iawn. Rydym yn buddsoddi cryn dipyn o arian cyhoeddus yn y broses o greu'r cyfleusterau newydd hyn, ac ni allant fod yn gyfleusterau sy'n cael eu defnyddio yn ystod y diwrnod ysgol, yn ystod tymor yr ysgol yn unig—mae angen inni sicrhau bod y cyfleusterau hyn ar gael ar gyfer y gymuned yn gyffredinol.
Y bore yma, cefais y pleser a'r fraint o agor y campws dwyreiniol newydd yn etholaeth Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd. Mae'n adeilad gwirioneddol drawiadol sy'n cyfuno cyfleusterau ar gyfer plant 11 i 16 oed, yn ogystal â chyfleusterau Coleg Caerdydd a'r Fro ar yr un campws, a chyfleusterau chwarae awyr agored gwych—cae 3G gyda llifoleuadau—a bydd y cyfleusterau hynny ar gael, nid yn unig i blant ysgol eu defnyddio, ond er mwyn i'r gymuned yn gyffredinol eu defnyddio. A gwn fod y math hwnnw o fuddsoddiad yn nwyrain Caerdydd, fel y clywais y bore yma, yn hir ddisgwyliedig a'i fod yn cael ei groesawu'n fawr iawn.