Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:31 pm ar 23 Mai 2018.
Wel, rwy'n credu bod symud o therapi galwedigaethol i absenoldebau sy'n gysylltiedig â straen yng ngogledd Cymru yn dipyn o naid, ond serch hynny, rydym yn edrych ar yr hyn sydd wedi digwydd yng ngogledd Cymru. Mewn gwirionedd, rhan o'r hyn sydd wedi digwydd yw bod pobl yn disgrifio eu cyfraddau salwch a'r rhesymau amdanynt yn fwy cywir oherwydd, yn y gorffennol, roedd nifer o bobl yn dewis y categori 'arall', a bellach mae mwy o bobl yn dewis y rheswm cywir. Mewn gwirionedd, yng ngogledd Cymru y cafwyd un o'r cyfraddau isaf o absenoldeb oherwydd salwch ar draws y gwasanaeth iechyd gwladol. Mae amrywiaeth o fesurau ar waith ar gyfer ystyried sut rydym yn gwella ein cefnogaeth i'r bobl sy'n ymdrin â'r hyn sydd, ar adegau, yn swydd anodd sy'n peri straen. Atebodd y Prif Weinidog y cwestiwn hwn ddoe. Mae gennym nifer o fentrau yng ngogledd Cymru ynglŷn â hynny'n benodol, ac rwy'n fwy na pharod i ysgrifennu at yr Aelod gydag amrywiaeth o'r cynlluniau hynny y mae'r bwrdd iechyd yn eu rhoi ar waith.FootnoteLink