2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru ar 23 Mai 2018.
2. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am hyfforddi therapyddion galwedigaethol yng ngogledd Cymru? OAQ52243
Diolch am eich cwestiwn. Mae nifer y lleoedd hyfforddi therapi galwedigaethol yng ngogledd Cymru wedi cynyddu o 12 yn 2013-14 i 34 yn 2018-19. Yn ychwanegol at y rhaglen amser llawn, mae ein comisiynwyr yn gweithio gyda Phrifysgol Glyndŵr i ystyried trefniadau ar gyfer rhaglen ran-amser yn 2019-20.
Diolch yn fawr. Yn 2014, fe ddaeth y cyrsiau hyfforddi therapyddion galwedigaethol i ben ym Mhrifysgol Bangor, ac o ganlyniad mae Wrecsam yn gwasanaethu'r gogledd i gyd. Erbyn hyn, mae yna broblem recriwtio yn y gogledd -orllewin, ac fel y gwyddoch chi, mae yna dystiolaeth yn dangos bod myfyrwyr yn tueddu i aros yn yr ardaloedd lle maen nhw'n hyfforddi, ac mae hynny'n un o nifer o resymau pam fod Plaid Cymru yn galw am sefydlu ysgol feddygol ym Mangor. A wnewch chi edrych ar y posibilrwydd o ailgyflwyno cwrs hyfforddi therapyddion galwedigaethol ym Mangor a fyddai hefyd yn cynnwys hyfforddiant cyfrwng Cymraeg, er mwyn ymateb i anghenion y gogledd-orllewin?
Diolch am eich cwestiwn. Mewn gwirionedd, rydym wedi gweld cynnydd o fwy na 50 y cant yn ein hyfforddiant cenedlaethol ar gyfer therapi galwedigaethol rhwng 2014 a 2018. Felly, rydym yn parhau i fuddsoddi yn y grŵp hwn o weithwyr, i gydnabod eu bod yn dda, nid yn unig o fewn y sector ysbytai ac amrywiaeth o sectorau, ond o fewn gofal iechyd lleol hefyd. Yn ddiddorol iawn, cefais drafodaeth wrthgyferbyniol i'r drafodaeth hon gyda chynrychiolwyr ynglŷn â hyfforddiant nyrsys, lle yr enillodd Bangor y contract i ddarparu'r holl hyfforddiant i nyrsys yng ngogledd Cymru, ac nid yw Glyndŵr yn darparu'r hyfforddiant GIG hwnnw mwyach. Felly, dyma ran o'r her ynglŷn â sut rydym yn bwrw ymlaen i gomisiynu hyfforddiant o ansawdd, ar sail effeithiol, ar gyfer amrywiaeth o weithwyr proffesiynol gwahanol. Rwy'n fwy na pharod i ystyried sut a beth rydym yn ei gomisiynu eto, a sut y mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru yn comisiynu'r hyfforddiant gan ddarparwyr hyfforddiant priodol, gan ystyried anghenion y boblogaeth, ac wrth gwrs, mae anghenion ieithyddol yn rhan o'r angen, yn hytrach na dewis. Felly, rwy'n cydnabod y pwynt a wneir, ond mae'n rhywbeth y byddwn yn ei ystyried ar y cyd ag Addysg a Gwella Iechyd Cymru.
Nid yn unig y mae therapyddion galwedigaethol yn cyflawni rôl bwysig yn y gymuned ar gyfer y boblogaeth ehangach, ond gallant hefyd gynnig gwasanaeth sy'n gysylltiedig ag iechyd galwedigaethol ar gyfer y bobl sy'n gweithio i Fwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr. Un o'r pethau sydd wedi peri cryn bryder dros y dyddiau diwethaf yw gweld adroddiadau o gynnydd o 17 y cant yn nifer y dyddiau y mae staff yn absennol oherwydd salwch sy'n gysylltiedig â straen—bron 77,000 diwrnod y llynedd ar gost o dros £5 miliwn. Pa gymorth rydych yn ei ddarparu ar gyfer staff rheng flaen yn ein gwasanaeth iechyd gwladol mewn lleoedd fel gogledd Cymru, lle maent yn teimlo fel pe baent ond yn gallu ymdrin â phroblemau wrth iddynt godi oherwydd y pwysau ar adnoddau ac oherwydd y nifer sylweddol o swyddi gwag sydd i'w gweld bellach, nid yn unig swyddi nyrsio ond swyddi eraill hefyd?
Wel, rwy'n credu bod symud o therapi galwedigaethol i absenoldebau sy'n gysylltiedig â straen yng ngogledd Cymru yn dipyn o naid, ond serch hynny, rydym yn edrych ar yr hyn sydd wedi digwydd yng ngogledd Cymru. Mewn gwirionedd, rhan o'r hyn sydd wedi digwydd yw bod pobl yn disgrifio eu cyfraddau salwch a'r rhesymau amdanynt yn fwy cywir oherwydd, yn y gorffennol, roedd nifer o bobl yn dewis y categori 'arall', a bellach mae mwy o bobl yn dewis y rheswm cywir. Mewn gwirionedd, yng ngogledd Cymru y cafwyd un o'r cyfraddau isaf o absenoldeb oherwydd salwch ar draws y gwasanaeth iechyd gwladol. Mae amrywiaeth o fesurau ar waith ar gyfer ystyried sut rydym yn gwella ein cefnogaeth i'r bobl sy'n ymdrin â'r hyn sydd, ar adegau, yn swydd anodd sy'n peri straen. Atebodd y Prif Weinidog y cwestiwn hwn ddoe. Mae gennym nifer o fentrau yng ngogledd Cymru ynglŷn â hynny'n benodol, ac rwy'n fwy na pharod i ysgrifennu at yr Aelod gydag amrywiaeth o'r cynlluniau hynny y mae'r bwrdd iechyd yn eu rhoi ar waith.FootnoteLink