Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:30 pm ar 23 Mai 2018.
Nid yn unig y mae therapyddion galwedigaethol yn cyflawni rôl bwysig yn y gymuned ar gyfer y boblogaeth ehangach, ond gallant hefyd gynnig gwasanaeth sy'n gysylltiedig ag iechyd galwedigaethol ar gyfer y bobl sy'n gweithio i Fwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr. Un o'r pethau sydd wedi peri cryn bryder dros y dyddiau diwethaf yw gweld adroddiadau o gynnydd o 17 y cant yn nifer y dyddiau y mae staff yn absennol oherwydd salwch sy'n gysylltiedig â straen—bron 77,000 diwrnod y llynedd ar gost o dros £5 miliwn. Pa gymorth rydych yn ei ddarparu ar gyfer staff rheng flaen yn ein gwasanaeth iechyd gwladol mewn lleoedd fel gogledd Cymru, lle maent yn teimlo fel pe baent ond yn gallu ymdrin â phroblemau wrth iddynt godi oherwydd y pwysau ar adnoddau ac oherwydd y nifer sylweddol o swyddi gwag sydd i'w gweld bellach, nid yn unig swyddi nyrsio ond swyddi eraill hefyd?