Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:28 pm ar 23 Mai 2018.
Diolch yn fawr. Yn 2014, fe ddaeth y cyrsiau hyfforddi therapyddion galwedigaethol i ben ym Mhrifysgol Bangor, ac o ganlyniad mae Wrecsam yn gwasanaethu'r gogledd i gyd. Erbyn hyn, mae yna broblem recriwtio yn y gogledd -orllewin, ac fel y gwyddoch chi, mae yna dystiolaeth yn dangos bod myfyrwyr yn tueddu i aros yn yr ardaloedd lle maen nhw'n hyfforddi, ac mae hynny'n un o nifer o resymau pam fod Plaid Cymru yn galw am sefydlu ysgol feddygol ym Mangor. A wnewch chi edrych ar y posibilrwydd o ailgyflwyno cwrs hyfforddi therapyddion galwedigaethol ym Mangor a fyddai hefyd yn cynnwys hyfforddiant cyfrwng Cymraeg, er mwyn ymateb i anghenion y gogledd-orllewin?