Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:29 pm ar 23 Mai 2018.
Diolch am eich cwestiwn. Mewn gwirionedd, rydym wedi gweld cynnydd o fwy na 50 y cant yn ein hyfforddiant cenedlaethol ar gyfer therapi galwedigaethol rhwng 2014 a 2018. Felly, rydym yn parhau i fuddsoddi yn y grŵp hwn o weithwyr, i gydnabod eu bod yn dda, nid yn unig o fewn y sector ysbytai ac amrywiaeth o sectorau, ond o fewn gofal iechyd lleol hefyd. Yn ddiddorol iawn, cefais drafodaeth wrthgyferbyniol i'r drafodaeth hon gyda chynrychiolwyr ynglŷn â hyfforddiant nyrsys, lle yr enillodd Bangor y contract i ddarparu'r holl hyfforddiant i nyrsys yng ngogledd Cymru, ac nid yw Glyndŵr yn darparu'r hyfforddiant GIG hwnnw mwyach. Felly, dyma ran o'r her ynglŷn â sut rydym yn bwrw ymlaen i gomisiynu hyfforddiant o ansawdd, ar sail effeithiol, ar gyfer amrywiaeth o weithwyr proffesiynol gwahanol. Rwy'n fwy na pharod i ystyried sut a beth rydym yn ei gomisiynu eto, a sut y mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru yn comisiynu'r hyfforddiant gan ddarparwyr hyfforddiant priodol, gan ystyried anghenion y boblogaeth, ac wrth gwrs, mae anghenion ieithyddol yn rhan o'r angen, yn hytrach na dewis. Felly, rwy'n cydnabod y pwynt a wneir, ond mae'n rhywbeth y byddwn yn ei ystyried ar y cyd ag Addysg a Gwella Iechyd Cymru.