Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:55 pm ar 23 Mai 2018.
Diolch. Mae gennym ffordd o weithio yng Nghymru sy'n ymwneud ag eistedd gyda phobl a datrys pethau gyda'n gilydd. Rwy'n fwy na pharod i gyfarfod. Rwy'n adnabod Simon yn dda, yn bersonol ac yn unigol—gwn eich bod chi hefyd. Mae'n unigolyn gwych. Mae'n ymgyrchwr brwd iawn yn wir. Mae'n syniad diddorol ac rwy'n credu bod rhinweddau ynddo. Mae angen i ni feddwl drwyddo er hynny ac mae'n debyg y bydd angen i ni ei drafod: beth yw'r dull gorau o sicrhau y bydd yn sefyllfa lle y bydd unrhyw berson gydag ystod o anableddau yn gwybod—ac mae wedi tynnu sylw ato o ran yr arwyddion bwyd a wnawn, y sgoriau hylendid ac ati—pa un a oes rhyw ffordd o wneud hyn? Gallai fod yn fodel ganddo ef neu gallai fod yn rhywbeth arall, ond rwy'n fwy na hapus i eistedd gyda chi ac eraill, a chyda Simon yn ogystal, a siarad am yr hyn y gallem ei wneud ac osgoi unrhyw ganlyniadau negyddol anfwriadol. Gadewch i ni wneud pethau'n iawn os ydym am fwrw ymlaen â rhywbeth.