Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:54 pm ar 23 Mai 2018.
Yn eich ymateb i Caroline Jones, Weinidog, soniasoch am wella lles pobl anabl, a byddai hynny, wrth gwrs, yn cynnwys helpu'r cyhoedd yn ehangach i ddeall rhai o'r rhwystrau y maent yn eu hwynebu. Ym mis Ionawr eleni, cynhaliais ddadl fer ar bolisi sgoriau ar y drysau mewn perthynas â mynediad ar gyfer pobl anabl, yn dilyn deiseb gan Gynghrair Pobl Anabl Pen-y-bont ar Ogwr. Ar y pryd, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet ei fod yn awyddus i glywed awgrymiadau ymarferol ynglŷn â sut y gallai cynllun o'r fath weithio. Un o amcanion eraill y polisi yw rhoi hwb i fusnesau i fod eisiau gwella mynediad i adeiladau. Dylai'r prif gynghorwyr ar hynny, wrth gwrs, fod yn bobl sydd ag anableddau, ond gallaf weld y byddai gan therapyddion galwedigaethol, yn y GIG neu'r awdurdod lleol, sy'n gweithio ym maes ailalluogi, gyngor i'w gynnig yma ar gynllunio'r gwelliannau hynny. Felly, a fyddech yn hapus i gyfarfod â chynrychiolwyr Cynghrair Pobl Anabl Pen-y-bont ar Ogwr i ddysgu mwy am eu syniad gwreiddiol ac i ddatblygu rhai o'r materion ymarferol?