Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 3:07 pm ar 23 Mai 2018.
Diolch i chi am y cwestiwn. Mae gwasanaethau meddygon teulu yn elfen greiddiol o ofal sylfaenol a darparu system iechyd gynaliadwy. Mae ein hymgyrch ar gyfer gwelliant parhaus yn cael ei chefnogi gan y gronfa gofal sylfaenol sy'n werth bron i £43 miliwn ac sy'n llywio newid ac arloesedd ledled Cymru, gan gynnwys Sir Benfro wrth gwrs, ac yn 2018-19, dyrannwyd £4.69 miliwn o'r gronfa i Hywel Dda tuag at eu cynlluniau ar gyfer cynaliadwyedd gwasanaethau, gwell mynediad, a darparu mwy o wasanaethau yn lleol.