Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 3:08 pm ar 23 Mai 2018.
Ysgrifennydd y Cabinet, yn ddiweddar, mae bwrdd iechyd prifysgol Hywel Dda wedi cymeradwyo'r cais i gau meddygfa St Clement yn Neyland yn fy etholaeth, a bydd hynny'n cael effaith enfawr ar gleifion yn y feddygfa a fydd yn awr yn gorfod teithio i Ddoc Penfro am driniaeth ac a fydd yn gorfod talu costau ariannol am deithio dros bont Cleddau. O ystyried yr amgylchiadau hyn, a allwch ddweud wrthym pa drafodaethau a gawsoch gyda'ch cyd-Aelod, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth—sydd yn ei le ar hyn o bryd—o gofio bod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gael gwared ar y tollau ar bont Cleddau, fel na fydd cleifion yn fy etholaeth yn gorfod talu costau ariannol er mwyn defnyddio gwasanaethau meddygon teulu hanfodol?