Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 3:09 pm ar 23 Mai 2018.
Rwy'n siŵr y bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth yn hapus i amlinellu'r cynnydd y mae'r Llywodraeth hon yn ei wneud ar bont Cleddau maes o law. O ran gwasanaethau meddygon teulu a gofal sylfaenol yn Neyland, rwy'n cydnabod y pwynt y mae'r Aelod yn ei wneud, ac mae yna drafodaethau ar y gweill i ystyried pa wasanaethau y gellir eu darparu o fewn yr ardal honno i leihau'r angen i deithio i rannau eraill o ardal y bwrdd iechyd am driniaeth bellach. Felly, byddwn yn parhau i weithio ochr yn ochr â'r bwrdd iechyd i'w helpu, fel sy'n ofynnol, ond mae hwn mewn gwirionedd yn benderfyniad y mae'r grŵp ei hun wedi'i wneud ynglŷn â chau meddygfa gangen, ac mae hynny o fewn y rheolau y mae ymarfer cyffredinol yn gweithredu oddi tanynt gyda'r contractwr annibynnol mawr hwn. Ond rwy'n hyderus y byddwn yn parhau i allu darparu amrywiaeth sylweddol o wasanaethau gofal iechyd lleol yn ardal Neyland i leihau'r angen i rywun deithio i Ddoc Penfro, gan gynnwys y cyfnod cyn i ni wneud cynnydd pellach mewn perthynas â'r tollau.