3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru ar 23 Mai 2018.
1. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am rôl Trafnidiaeth Cymru yn y fasnachfraint reilffyrdd newydd a gyhoeddwyd heddiw? 178
Gwnaf. Bydd Trafnidiaeth Cymru yn rheoli contract gwasanaethau rheilffyrdd Cymru a'r Gororau, gan roi'r teithiwr wrth wraidd yr hyn a wnânt i sicrhau gwasanaeth sy'n canolbwyntio ar gwsmeriaid.
Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Ddoe, cyhoeddodd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus adroddiad ar brosiect Cylchffordd Cymru—a oes cysylltiad yma, Ddirprwy Lywydd—a oedd yn canolbwyntio'n fwriadol ar ddau faes penodol iawn o waith craffu. Y cyntaf oedd dull rheoli Llywodraeth Cymru o sicrhau bod prosiect Cylchffordd Cymru yn sicrhau gwerth am arian, ac yn ail, proses Llywodraeth Cymru o wneud penderfyniadau a arweiniodd at gael gwared ar gynllun Cylchffordd Cymru yn y pen draw.
Nawr, nododd yr adroddiad hwnnw fethiannau penodol mewn perthynas â dull Llywodraeth Cymru o sicrhau gwerth am arian, gan gynnwys dryswch mewn perthynas â'r we gymhleth o gysylltiadau cyflenwyr a dull gweithredu cyffredinol o amddiffyn rheolwyr a allai fod wedi rhoi Llywodraeth Cymru mewn perygl diangen. Felly, a gaf fi ofyn pa fesurau penodol newydd a roddwyd ar waith gan Weinidogion, a'u dilyn gan swyddogion, er mwyn sicrhau bod y broses gaffael i ddyfarnu'r fasnachfraint newydd yn sicrhau'r gwerth gorau posibl am arian i drethdalwyr? Ac a allwch chi ein sicrhau, fel yn achos Cylchffordd Cymru, fod mesurau llym tebyg wedi'u rhoi ar waith i ddiogelu Llywodraeth Cymru rhag y posibilrwydd o her gyfreithiol, yn dilyn cwblhau'r broses dendro?
Mae rhai pryderon wedi'u mynegi ynglŷn â thryloywder yn y broses gyfredol. Nawr, mae'r Adran Drafnidiaeth yn cyhoeddi'r fanyleb y maent yn gofyn i bobl wneud cynnig yn ei herbyn, ac ar ddiwrnod y cyhoeddiad, maent bob amser yn rhoi trosolwg o'r hyn y bydd y contract newydd yn ei gynnwys, ac mae ganddynt yr un cyfnod herio o 10 diwrnod hefyd. Buaswn yn gwerthfawrogi unrhyw sylwadau ar hynny.
Hefyd, 12 mis yn ôl, dywedasoch y byddai teithwyr yn sylwi ar fanteision y fasnachfraint newydd ar unwaith, a'r wythnos diwethaf, dywedodd y Prif Weinidog y byddai'r gwelliannau sy'n deillio o'r fasnachfraint newydd yn cymryd blynyddoedd. Er mwyn teithwyr, tybed a allech egluro pwy oedd yn iawn.
Ac yn olaf, pa bryd y bwriadwch gyflwyno datganiad i'r Siambr, datganiad llafar, mewn perthynas â'r fasnachfraint newydd yn dilyn y cyhoeddiad heddiw?
A gaf fi ddiolch i'r Aelod am ei gwestiynau? Rwy'n falch iawn o roi gwybod i'r Aelod fy mod, yn y 24 awr diwethaf, wedi siarad â nifer o Weinidogion Llywodraeth y DU sydd wedi mynegi eu llongyfarchiadau cynnes iawn ar yr hyn a welir fel llwyddiant enfawr i Lywodraeth Cymru ac i waith rhwng Llywodraethau er mwyn sicrhau y gallwn ddyfarnu'r fasnachfraint nesaf, a ddisgrifiwyd gan yr Aelod, yn seiliedig ar adroddiad a gynhyrchwyd gan ei bwyllgor ei hun, fel uchelgais arwrol. Mae'r uchelgais hwnnw'n cael ei wireddu heddiw.
Ond mae'r Aelod yn anghywir mewn nifer o ffyrdd mewn perthynas â'r broses sy'n cael ei dilyn ar hyn o bryd a dros y 10 diwrnod nesaf. Yn unol â'r gyfraith, mae'n rhaid i ni weithredu cyfnod segur o 10 niwrnod lle na chawn ni, na'r cynigydd a ffafrir, wneud sylwadau. Mae hynny oherwydd ei fod yn rhoi amser i'r cynigydd na chafodd ei ffafrio i herio os yw'n dymuno gwneud hynny. Buaswn wrth fy modd yn dechrau agor yr anrhegion heddiw, ond bydd yn rhaid i'r Aelod a phawb arall, yn fy nghynnwys i, fod yn amyneddgar dros y 10 diwrnod nesaf.
Rwyf hefyd yn gwrthwynebu'r modd y mae'r Aelod yn cysylltu'r cyhoeddiad heddiw ag adroddiad ar brosiect Cylchffordd Cymru, ac yn benodol â'r datganiad i'r wasg sy'n awgrymu nad yw unigolion o fewn Trafnidiaeth Cymru yn gallu rheoli'r fasnachfraint oherwydd yr union fater hwnnw. Dylwn ddweud wrth yr Aelod fod yr un swyddogion wedi sicrhau'r mewnfuddsoddiad mwyaf erioed, maent wedi sicrhau lefelau cyflogaeth uwch nag erioed ac maent wedi sicrhau'r nifer uchaf erioed o fusnesau newydd. Maent wedi darparu Aston Martin, maent wedi helpu maes awyr Caerdydd i aros ar agor, maent wedi helpu i gyflawni'r fframwaith arfarnu cyffredin. Maent wedi helpu i gyflawni ffordd osgoi'r Drenewydd. Mae gennyf bob ffydd yn y swyddogion hynny. Mae gennyf bob ffydd yn Trafnidiaeth Cymru, ac o gofio eu bod hwy a ninnau wedi cyflawni ein huchelgais arwrol heddiw, credaf y dylai pob Aelod fod â ffydd yn Trafnidiaeth Cymru.
Diolch. Adam Price.
Ysgrifennydd y Cabinet, gallaf ddeall pam fod Gweinidogion Torïaidd yn eich llongyfarch am ddilyn eu hagenda preifateiddio, ond yn sicr, nid yw'r ffaith ein bod yn awr ar fin trosglwyddo'r cyfrifoldeb dros ein rheilffyrdd cenedlaethol i gonsortiwm Ffrengig-Sbaenaidd o gorfforaethau trawswladol yn destun dathlu. Mae'n destun gofid a hunanholi gwleidyddol gan y Blaid Lafur. Yn sicr, roedd eich maniffesto eich hun, ac rwy'n credu, Ysgrifennydd y Cabinet, eich bod wedi chwarae rhan yn y broses o'i ysgrifennu, yn addo y byddech
'yn cyflwyno masnachfraint rheilffyrdd dielw newydd o 2018 ymlaen'.
Nawr, byddai unrhyw un a fyddai'n darllen hynny'n tybio bod hwn yn weithredwr ar ran y wladwriaeth. Wel, wrth gwrs, mae'r fasnachfraint cael ei gweithredu gan y wladwriaeth, ond nid y wladwriaeth Gymreig—y wladwriaeth Ffrengig sy'n berchen ar y rhan fwyaf ohoni. Y wladwriaeth Almaenig sy'n berchen ar y rhan fwyaf o'r un gyfredol wrth gwrs, felly mae'n debyg bod hwnnw'n rhyw fath o gynnydd—ydy? Oherwydd i bob pwrpas, yr hyn rydym yn ei wneud—rydym yn rhwymo dwylo, nid y weinyddiaeth nesaf yn unig, ond y weinyddiaeth ar ôl hynny, ac yn wir, y weinyddiaeth ar ôl hynny wedyn.
Felly, a gaf fi ofyn i chi, Ysgrifennydd y Cabinet, rydych wedi addo—[Torri ar draws.] A gaf fi ofyn i chi, Ysgrifennydd y Cabinet, rydych wedi addo y bydd y Llywodraeth Lafur nesaf rydych bob amser yn sôn amdani yn newid y Ddeddf Rheilffyrdd i alluogi Llywodraeth Cymru i gael y pŵer i gael gweithredwr sector cyhoeddus, felly a ydych wedi gwneud yr hyn y mae Llywodraeth yr Alban wedi'i wneud a chyflwyno cymal terfynu yn y contract fel y gallwch, ar y cyfle cynharaf posibl, sicrhau eich bod yn cyflawni'r hyn rydych wedi ei addo—sef gweithredwr dielw?
A gawn ni ofyn hefyd, os caiff y contract ei roi'n ôl, fel sydd wedi digwydd mewn nifer o achosion, a fydd Llywodraeth Cymru yn weithredwr pan fetha popeth arall? Dyma'r trydydd tro i fi ofyn y cwestiwn hwnnw i chi, Ysgrifennydd y Cabinet, felly buaswn yn ddiolchgar pe baech yn ymateb.
Rwyf wedi fy synnu braidd gan oportiwnistiaeth rhad yr Aelod heddiw, o ystyried bod yr Aelod yn gwybod yn iawn fod Deddf Rheilffyrdd 1993 yn atal cyrff sector cyhoeddus rhag gwneud cais uniongyrchol am fasnachfraint. Rwyf wedi fy synnu, oherwydd mae ei Aelodau Seneddol ei hun, gan gynnwys ei AS ei hun, wedi gweithio gydag ASau Llafur i gyflwyno gwelliant i Fil Cymru, ond yn anffodus cafodd y gwelliant hwnnw ei wrthod.
Rwyf wedi blino'n lân ar yr ormodiaith hysterig braidd sy'n gysylltiedig â'r mater hwn. Rwy'n cofio 16 Awst y llynedd—diwrnod arbennig iawn am resymau gwahanol—pan oedd yr Aelod yn rhagweld na fyddem byth yn y sefyllfa hon heddiw o fod wedi'i ddyfarnu ac na fyddem byth yn y sefyllfa hon gyda'r broses roedd ef a'i gyd-Aelodau ar y pwyllgor wedi'i disgrifio fel arwrol o uchelgeisiol wedi'i chwblhau. Dywedodd y dylid cymryd y cyfrifoldeb am drafnidiaeth oddi wrthyf, ond rwy'n eithaf ffyddiog—rwy'n eithaf sicr pe bai'r Aelod wedi bod yn sefyll lle rwy'n sefyll heddiw, yn cyhoeddi'r hyn rwy'n ei gyhoeddi heddiw, ar ôl cyflawni'r hyn roedd pawb o'i gwmpas yn ei alw'n arwrol o uchelgeisiol, y byddai ei gyd-Aelod seneddol yn cychwyn deiseb ar gyfer comisiynu cerflun efydd er anrhydedd i'r mab darogan. Rwyf yr un mor sicr y byddai'r Aelod yn llofnodi'r ddeiseb honno. Gallaf sicrhau'r Aelod y bydd yr holl fanylion yn cael eu rhyddhau ar ôl y cyfnod segur o 10 diwrnod.
Rwyf wedi sylwi bod y datganiad i'r wasg a gyhoeddwyd gan Blaid Cymru heddiw yn dweud bod y broses o wneud cynigion wedi bod yn wallus o'r dechrau i'r diwedd, ac eto mae'r un Aelod y priodolir y dyfyniad hwn iddo'n rhan o bwyllgor a ddisgrifiodd y broses fel un arwrol o uchelgeisiol. Mae rhyw fath o rwyg yma. Buaswn yn cytuno gyda'r olaf, o ystyried ein bod wedi cyrraedd y pwynt heddiw o allu cyhoeddi'r cynigydd a ffafrir. Mae'r datganiad i'r wasg yn mynd rhagddo i ddweud ei bod yn anfaddeuol na chaniateir mwy nag un dudalen o ddatganiad ysgrifenedig. Y prif reswm pam ei fod yn ddatganiad ysgrifenedig un dudalen yw bod yn rhaid i ni, yn ôl y gyfraith—nid yn ôl steil, yn ôl y gyfraith—gael cyfnod segur. Felly, gofynnaf i'r Aelod: o gofio nad yw'n fater o steil, ei fod yn fater o gyfraith, a fyddai ef eisiau torri'r gyfraith? A fyddai ef eisiau peryglu dyfodol y fasnachfraint? Ni allaf ond casglu, mae arnaf ofn, Ddirprwy Lywydd, y byddai'n well gan yr Aelod pe bai'r fasnachfraint gyfredol yn parhau.
David Rowlands.
Na, mae'n ddrwg gennyf, Lywydd, mae'n ddrwg gennyf.
Na? O, mae'n ddrwg gennyf. Vikki Howells.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, rwy'n croesawu eich datganiad heddiw, ac rwy'n credu bod Cymoedd de Cymru yn fagwrfa arbenigedd rheilffyrdd, gyda nifer o fentrau bach a chanolig yn ymwneud â pheirianneg rheilffyrdd, adeiladu a gwasanaethau cynnal a chadw eraill, gyda chyflogwyr sy'n byw'n lleol ac sy'n aml yn fedrus iawn hefyd. Nawr, mae llawer o'r rhain yn dweud wrthyf eu bod yn treulio hyd at 80 y cant o'u hamser yn gweithio y tu allan i Gymru, gyda gweithwyr yn byw oddi cartref am gyfnodau hir ac felly'n gwario eu harian y tu allan i'r gymuned leol yn ogystal. Yn amlwg, pe bai cwmnïau fel hyn yn gallu gwneud cais am gontractau drwy Trafnidiaeth Cymru, byddai buddion economaidd enfawr i'w cael, a byddai gweithluoedd lleol yn gallu gwario eu harian yn fwy lleol o ganlyniad. Felly, fy nghwestiwn i chi yw: pa gynlluniau sydd gan Trafnidiaeth Cymru i sicrhau bod cwmnïau rheilffyrdd lleol, llai o faint yn gallu ymgeisio am rai o'r contractau hyn heb gael eu boddi gan y cwmnïau mawr yn y sector hwn?
Rwy'n falch iawn o ymateb i'r Aelod, ac rwy'n cydnabod ei diddordeb brwd yn y broses gaffael ynghyd â'i diddordeb mewn sicrhau ei bod yn darparu cyfleoedd economaidd gwell yn ogystal â gwasanaethau rheilffyrdd gwell, yn enwedig ar gyfer busnesau bach a micro yn ei hetholaeth. Rwy'n falch ein bod ar hyn o bryd wrthi'n nodi cyfleoedd ar gyfer partneriaid datblygu seilwaith a fydd yn gweithio ar fetro de Cymru. Mae'r gwaith hwnnw'n parhau. Rwy'n hyderus y byddwn yn gallu sicrhau y bydd cyfran sylweddol o wariant y prosiect gweddnewidiol hwn yn cael ei ddarparu i fusnesau bach a chanolig eu maint yng Nghymru, gan gynnwys y rhai yn ei hetholaeth hi.
Mae'n teimlo braidd fel pe bai'r Llywodraeth hon yn mynd o un llanast i'r llall. Heddiw, mae Llywodraeth Cymru wedi dyfarnu masnachfraint rheilffyrdd gwerth £5 biliwn i gwmni rheilffyrdd Keolis y mae'r rhan fwyaf ohono'n eiddo i'r wladwriaeth Ffrengig, a chorfforaeth seilwaith Sbaenaidd Amey—y ddau'n gorfforaethau rhyngwladol er elw sy'n werth miliynau lawer o bunnoedd.
Nawr, hoffwn fynd ar ôl cwestiwn sydd wedi cael ei ofyn, ond nad yw wedi ei ateb eto. A all Ysgrifennydd y Cabinet egluro sut y mae'r penderfyniad hwn yn gyson â'r ymrwymiad ar dudalen 20 o faniffesto 2016, y cafodd ei ethol ar ei sail, a oedd yn dweud y bydd Llywodraeth Lafur Cymru,
'yn cyflwyno masnachfraint rheilffyrdd dielw newydd'.
Rwy'n credu mai ef a ysgrifennodd y maniffesto hyd yn oed. Cyn y ceir unrhyw honiad y bydd ymwneud Trafnidiaeth Cymru yn golygu bod hwn yn weithgarwch dielw, a gaf fi ei atgoffa o'r ffaith bod Keolis wedi gwneud elw o €313 miliwn yn 2016? Credaf y byddent yn synnu clywed na fyddant yn gwneud elw o'r contract hwn.
Wrth gwrs, bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn dadlau bod ei ddwylo wedi'u clymu gan Ddeddf Cymru 2017, ac fel y bydd yn cofio, rwy'n siŵr, ni wnaeth Plaid Cymru gefnogi'r ddeddfwriaeth honno. Pleidleisiodd o blaid Deddf Cymru, fodd bynnag, gan wybod yn iawn y byddai'n ei atal rhag darparu masnachfraint ddielw. Mae Llywodraeth yr Alban, o dan eu setliad, yn gallu caffael gweithredwr sector cyhoeddus. Pam fod Llywodraeth Cymru wedi methu sicrhau'r un fargen â'u cymheiriaid yn yr Alban?
Mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi honni—
A ydych yn dirwyn i—? A allwch chi ddirwyn i ben os gwelwch yn dda?
—bydd y rheilffordd er elw hon yn darparu manteision i deithwyr. A yw'n derbyn y bydd yn darparu llai o fanteision na rheilffordd ddielw? Os nad yw'n derbyn hynny, pam felly ei fod wedi ymrwymo, ar sawl achlysur, i ddarparu rheilffordd ddielw?
Mae llawer mwy o gwestiynau, Ddirprwy Lywydd, ond rwyf am orffen gyda hyn. Heddiw, mae'r Blaid Lafur yn cynnal dadl yn San Steffan ar wladoli'r rheilffyrdd. Mae arweinydd ei blaid wedi siarad am reilffordd y bobl. Safodd ar nifer o faniffestos, gan addo darparu rheilffordd ddielw. Sut, felly, y gall gyfiawnhau gwneud y gwrthwyneb llwyr i flaenoriaethau ei blaid y cafodd ei ethol i'w cyflawni? A ydych chi—
Na, mae'n ddrwg gennyf; rydych wedi siarad yn llawer rhy hir. Mae'n ddrwg gennyf; roedd hynny'n llawer rhy hir.
A gaf fi ddiolch i'r Aelod am ei chwestiynau a'i haraith? Rwy'n ei sicrhau ein bod wedi mynd cyn belled â phosibl ar gyflawni addewid y maniffesto, gan sicrhau, lle y gallwn weithredu consesiynau ar sail ddielw, ein bod yn gwneud hynny, ond gan sicrhau hefyd, drwy broses y ddeialog gystadleuol, fod gennym fargen syfrdanol i deithwyr Cymru. A dyna sydd o fwyaf o ddiddordeb i'r bobl allan yno—y bobl sy'n dymuno cael dadl berthnasol yn y Siambr hon ar ddyfodol gwasanaethau.
Mae'n rhaid i mi ailadrodd y pwynt fod ei Haelodau—a chyda llaw, nid wyf erioed wedi gwasanaethu yn y Senedd—ond mae ei Haelodau, y tu ôl iddi, wedi eistedd ar bwyllgor a gymeradwyodd adroddiad a oedd yn disgrifio'r broses hon rydych bellach yn ei beirniadu fel un 'arwrol o uchelgeisiol'. Nawr, ni all pobl Cymru ond casglu felly fod Aelodau ar draws y Siambr hon wedi cytuno y byddai cynlluniau Llywodraeth Cymru i gaffael gweithredwr a datblygwr a phartner newydd yn arwrol o uchelgeisiol i'r bobl rydym yn eu gwasanaethu. Heddiw, rydym wedi cyflawni hynny, ac nid yw hyn ond megis dechrau.
Gallaf ddeall eich dicter tuag at agwedd Plaid Cymru mewn perthynas â'r mater hwn, ond mae'n debyg eich bod yn cael rhyw foddhad o gydnabod bod yr hyn a ddywed Plaid Cymru yn wir, i'r graddau bod taer angen Llywodraeth Lafur yn San Steffan oherwydd dyna'r unig ffordd y byddwn yn gallu diddymu adran 25 o Ddeddf Rheilffyrdd 1993, sy'n gwahardd perchnogaeth gyhoeddus—ac wrth gwrs, rhagrith y Torïaid, sydd wedi gwladoli rheilffordd arfordir y dwyrain. Dyma'r trydydd tro iddynt ei ail-wladoli oherwydd bob tro y mae'n mynd i'r sector preifat, ar ôl i'r sector preifat fethu mae'n mynd i'r sector cyhoeddus, mae'n gwneud elw, maent yn ei phreifateiddio, mae'n colli arian, mae'n mynd yn ôl i'r sector cyhoeddus. Felly, mae rhagrith llwyr yno. Ond mae taer angen i Lywodraeth Lafur yn San Steffan wneud hynny.
Fodd bynnag, yr hyn roeddwn am ei ofyn i chi, Ysgrifennydd y Cabinet: mae'r gweithwyr yn y diwydiant yn hanfodol bwysig. I ba raddau y galloch chi ymgysylltu ag Undeb Cenedlaethol y Gweithwyr Rheilffordd, Morwrol a Thrafnidiaeth, gyda Chymdeithas Gysylltiedig y Peirianwyr Locomotifau a Diffoddwyr Tân a Chymdeithas Staff Cyflogedig Trafnidiaeth—y bobl a fydd yn gorfod gweithio i gyflawni hynny mewn gwirionedd—a sicrhau y cânt eu diogelu gan gardiaid ac ati, a chanfod i ba raddau y maent yn croesawu'r fenter hon hyd yma? Hefyd, o fewn Trafnidiaeth Cymru, yr wyf yn ei groesawu'n fawr iawn, sy'n dod i Bontypridd er mwyn helpu i adfywio'r dref, i ba raddau y ceir hyblygrwydd o fewn y system, pan fydd Jeremy Corbyn yn Brif Weinidog, pan fydd gennym Lywodraeth Lafur yn San Steffan a phan fyddwn wedi diddymu adran 25, i sicrhau bod hyn a gweddill y rhwydwaith rheilffyrdd yn cael eu trosglwyddo i berchnogaeth gyhoeddus, gan mai'r Blaid Lafur yw'r unig blaid sydd â'r gallu i gyflawni hynny mewn gwirionedd?
A gaf fi ddiolch i'r Aelod am ei gwestiwn? Mae'r Aelod yn llygad ei le. Rydym wedi gweithio'n agos gydag Undeb Cenedlaethol y Gweithwyr Rheilffordd, Morwrol a Thrafnidiaeth a Chymdeithas Gysylltiedig y Peirianwyr Locomotifau a Diffoddwyr Tân ac efallai y gallaf gynnig rhywfaint o sicrwydd i'r Aelod, ac i Aelodau eraill ar feinciau'r gwrthbleidiau, sydd wedi gofyn a yw'r undebau yn cefnogi ein penderfyniad. Wel, gadewch i mi ddarllen yr hyn a ddywedodd Mick Cash:
Mae polisi Undeb Cenedlaethol y Gweithwyr Rheilffordd, Morwrol a Thrafnidiaeth o blaid rheilffyrdd integredig cenedlaethol o dan berchenogaeth gyhoeddus, ac mae Llywodraeth Cymru wedi'i gwneud yn glir mai dyma fyddai ei dyhead yn ogystal pe na bai'n rhaid iddynt weithio o dan y cyfyngiadau deddfwriaethol o blaid preifateiddio a orfodir gan Lywodraeth y DU.
Aeth ymlaen i ddweud:
Fodd bynnag, mae Undeb Cenedlaethol y Gweithwyr Rheilffordd, Morwrol a Thrafnidiaeth yn croesawu'r ffaith, er gwaethaf y cyfyngiadau hyn, fod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gadw gard ar bob trên ochr yn ochr ag ymrwymiadau eraill i weithio gydag Undeb Cenedlaethol y Gweithwyr Rheilffordd, Morwrol a Thrafnidiaeth i ddiogelu swyddi ac amodau gweithwyr rheilffyrdd yng Nghymru.
Dyma enghraifft o sut y mae Llafur Cymru yn gweithio gyda'r undebau, yn gweithio gyda grwpiau teithwyr, ac yn darparu'r gorau ar gyfer pobl Cymru.
Diolch yn fawr iawn. Bydd yr ail gwestiwn amserol y prynhawn yma yn cael ei ateb gan y Gweinidog Tai ac Adfywio. David Melding.