Part of the debate – Senedd Cymru am 7:11 pm ar 23 Mai 2018.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddweud yn gyntaf fy mod wedi dechrau cynllunio'r ddadl fer hon cyn i fy sefyllfa dadol fy hun newid, felly nid wyf wedi fy nghymell yn llwyr gan hunan-les wrth ddod â rhai o'r materion hyn i'r Siambr heddiw?
Yn bennaf hoffwn siarad â chi heddiw am brosiect Dads Can yn ne-ddwyrain Cymru, y deuthum yn ymwybodol ohono gyntaf pan ymwelais â phencadlys Cymdeithas Tai Sir Fynwy yn gynharach eleni a chael cyfle i gyfarfod â'r staff rhagorol ac ymroddedig sy'n gweithio yno. Cefais fy nghyflwyno gan un o'r rheini, Katie Double, Cydlynydd Dads Can, i'r prosiect, ei obeithion, ei nodau a'i hanes llwyddiannus. Mae Katie yn ymgyrchydd brwd dros dadau ym mhobman a gwn fod—gallaf eich gweld yn codi llaw, oes—mae aelodau eraill o dîm Dads Can tai Sir Fynwy yn yr oriel heddiw, felly diolch i chi am ddod. A gaf fi ddweud hefyd nad yw hyn yn ymwneud â bychanu'r holl gymorth angenrheidiol sydd ar gael i famau? Mae'n ymwneud â llenwi bwlch mewn gwasanaethau cymorth lle y teimlwn fod bwlch yn bodoli. Gydag ystadegau'n dangos mai dynion yw tri chwarter yr achosion o hunanladdiad, fod un o bob tri phlentyn yn tyfu i fyny heb dad, fod cyfraddau ysgaru'n costio oddeutu £1,500 y flwyddyn i bob trethdalwr, a bod pobl ifanc 15 oed yn fwy tebygol o fod yn berchen ar ffôn clyfar na thad yn y cartref heddiw, mae Dads Can yn gwneud llawer i gynorthwyo teuluoedd i ddod yn fwy sefydlog ac yn fwy cydgysylltiedig.
Yn bennaf, nod y prosiect yw ymdrin ag anghydraddoldebau rhwng y rhywiau a brofir gan dadau drwy eu helpu i gael dyfodol mwy disglair a dod yn fodelau rôl cadarnhaol ym mywydau eu plant. Mae Dads Can yn lleihau effaith digwyddiadau trawmatig a brofir gan deuluoedd. Mae profiadau niweidiol yn ystod plentyndod yn creu mwy o risg i ddatblygiad plant yn y dyfodol, ac felly mae'r prosiect yn canolbwyntio ar dorri'r cylch hwn rhwng cenedlaethau drwy gymorth emosiynol ac ymgorffori newid ymddygiad cadarnhaol. Mae'r prosiect yn defnyddio dull hyfforddi i gynorthwyo tadau i nodi atebion i broblemau a wynebant fel diffyg hunan-barch, salwch meddwl, perthynas yn chwalu, mynediad at blant a dewisiadau ffordd o fyw negyddol. Cafodd rhwydwaith o gymorth ei greu drwy fentora gan gyfoedion, modelau rôl, eiriolaeth a threfnu perthynas â darparwyr cymorth lleol. Maent hefyd yn darparu cyngor ac arweiniad a chyfleoedd i ddefnyddio rhaglenni cyfoethogi teuluoedd.
Mae'r amserau'n newid: disodlwyd mathau traddodiadol o wrywdod o blaid cymdeithas fwy cyfartal. Fodd bynnag, mewn sawl maes, cafodd rôl y tad ei hanwybyddu'n aml. Drwy ddarparu cymorth mewn amgylcheddau diogel ac anfeirniadol, gall tadau fod yn fwy agored a thrafod eu problemau, rhywbeth nad ydynt yn gyfforddus yn ei wneud mewn fforymau eraill. Bellach, o ganlyniad i'r ffaith bod gwasanaethau yn ddealladwy yn aml yn canolbwyntio ar y fam, gall rhai tadau deimlo'n ynysig yn ystod blynyddoedd cynnar eu plentyn, felly nid yw'n syndod darganfod bod chwarter y tadau'n profi iselder yn ystod y flwyddyn gyntaf, ac anaml iawn y gwneir diagnosis ohono. Caiff gwasanaethau blynyddoedd cynnar eu darparu'n bennaf gan fenywod, gan greu amgylchedd sy'n canolbwyntio ar fenywod—unwaith eto, mae'n ddealladwy ar lawer ystyr, ond mae'n golygu bod rhai tadau yn ei chael hi'n anodd camu i mewn i'r amgylchedd hwnnw. Mae gwaith Dads Can yn cyd-ddarparu rhai o'r sesiynau hyn yn golygu bod tadau wedi cymryd rhan yn effeithiol yn y rhaglenni hyn.