Part of the debate – Senedd Cymru am 7:15 pm ar 23 Mai 2018.
Mae'r prosiect yn gweithio mewn partneriaeth â chwmni cyfreithwyr lleol sydd wedi darparu dros £30,000 o gyngor cyfreithiol a chynrychiolaeth pro bono i dadau yn fy etholaeth yn ne-ddwyrain Cymru. Mae chwarter y tadau sy'n gysylltiedig wedi ennill neu wella mynediad at eu plant dros y flwyddyn ddiwethaf, diolch i'r fenter. Mae Dads Can wedi cael ymholiadau o bob rhan o dde Cymru a hyd yn oed mor bell â Llundain. Daeth yn amlwg, pan fo tadau'n teimlo nad oes ganddynt unman arall i droi, eu bod yn aml yn troi at Dads Can. Os caf fynd drwy rai o'r ystadegau—dim ond ychydig: mae 94 y cant o dadau wedi dweud eu bod yn teimlo'n fwy hyderus ac yn cael cefnogaeth well oherwydd y cynllun; mae 84 y cant yn teimlo bod ganddynt allu gwell i ddylanwadu ar eu dyfodol a rheoli newid; a bellach mae 79 y cant wedi ymgysylltu'n effeithiol â darparwyr eraill oherwydd ymyrraeth y prosiect yn Tai Sir Fynwy.
Mae'r gwaith nid yn unig yn rhoi help llaw i dadau a'u teuluoedd, ond hefyd treulir llawer o amser yn cynnal sesiynau grwpiau mentora gan gymheiriaid yn y gymuned, yn cefnogi mentrau eraill megis datblygu safleoedd ysgol y goedwig, yn gwneud tasgau fel garddio ar gyfer y gymuned, a hefyd yn adfer coetiroedd hanesyddol, drwy godi waliau cerrig, er enghraifft, yn Nyffryn Gwy. Yn wir, yn ystod fy ymweliad mwyaf diweddar â'r tîm, roeddwn gyda grŵp o dadau a'u plant a oedd yn plannu planhigion ar fferm ychydig y tu allan i'r Fenni. Fe fûm yn gwneud ychydig o arddio fy hun, ond oherwydd fy mod yn gwisgo siwt, roedd yn edrych yn gwbl amhriodol ac os meiddiaf ddweud, braidd yn naff. Os ydych yn pendroni beth oedd y staeniau pan ddeuthum i'r Cynulliad wedyn, roeddent yn deillio o fy mhrofiad garddio. Y tro nesaf, byddaf yn mynd â jîns a welintons.
Dyma rai pethau y mae tadau a phartneriaid wedi dweud am y cynllun. Dyma Dawn Moore, yn gyntaf oll, o'r gwasanaethau integredig cymorth i deuluoedd:
Roeddwn yn teimlo bod Dads Can yn brosiect defnyddiol iawn ar gyfer tadau nad ydynt yn gwybod lle i ddechrau gyda chymorth ac sy'n aml yn amharod i ofyn am gymorth. Mae cael gwasanaeth pwrpasol ar gyfer tadau yn helpu i oresgyn stigma, mae'n eu cynorthwyo i gysylltu â gwasanaethau eraill, ac yn y pen draw mae'n sicr yn helpu i'w cynorthwyo i fod yn well tadau i'w plant.
Kay Perrott, o gwmni cyfreithwyr ETLP:
Heb brosiect fel hwn caiff llawer o dadau eu gadael heb unman i droi a heb y cymorth hanfodol sydd ei angen arnynt yn daer.
A dywedodd un o'r tadau, Ben Beynon:
Mae'r sefydliad hwn yn golygu cymaint i mi. Oni bai am Dads Can ni fyddai gennyf neb i siarad â hwy'n gyfrinachol i gael cefnogaeth foesol ac emosiynol.
Cafodd y cynllun ei gydnabod yn ddiweddar yn sgil y gwahaniaeth y mae ei gynnydd wedi'i wneud ar draws ardal Gwent drwy gael ei ddewis ar gyfer rownd derfynol gwobrau tai y DU ar gyfer 2018 yn y categori cyflawniad rhagorol ym maes cydraddoldeb ac amrywiaeth. Mewn gwirionedd, cafodd y ddadl hon ei gohirio ers ei slot blaenorol am fy mod yn gwybod bod y tîm cyfan yn Llundain ar gyfer y digwyddiad hwnnw ar ôl cael ei enwebu ar ei gyfer. Felly, dyna oedd y rheswm pam y cafodd ei gohirio. Rhoddodd newyddion ITV sylw i'r stori yn ddiweddar hefyd ac roeddwn yn falch o roi cyfweliad iddynt am fy mhrofiadau'n siarad â'r tîm a hefyd yn siarad â'r tadau sydd wedi cael cymaint o gefnogaeth ganddo.
Felly, mae'r prosiect wedi mynd o nerth i nerth mewn cyfnod byr iawn. Mae wedi bod yn llwyddiant aruthrol hyd yn hyn, ac rwyf wedi bod yn falch o fod yn rhan o hynny, ond beth am y dyfodol? A dyma lle y dowch chi i mewn, Weinidog. Yn ogystal â bod wedi siarad â chi eisoes am y cynllun—'O na', mae'n dweud—hyd yn hyn, gwn eich bod wedi bod yn gadarnhaol tuag ato. Mae un neu ddau o bethau yr hoffwn ofyn i chi wrth gloi'r ddadl fer hon. Daw'r cyllid ar gyfer y prosiect i ben ddechrau'r gwanwyn nesaf. Mae cais ar gyfer rhaglen olynol yn yr arfaeth, rhaglen o'r enw Family Man—nid Family Guy, prysuraf i ychwanegu, ond Family Man. Mae hwnnw, rwy'n credu, eisoes yn edrych fel pe bai'n mynd i fod yn brosiect cadarnhaol iawn ar gyfer y dyfodol ac yn olynydd rhagorol i'r hyn a welsom hyd yn hyn. Felly, Weinidog, a gaf fi ofyn ichi edrych yn ffafriol ar raglenni olynol i brosiectau fel Dads Can fel y gellir cadw manteision cadarnhaol y ddwy flynedd ddiwethaf wrth symud tua'r dyfodol?
Hefyd, credaf y byddai'n fuddiol pe bai Llywodraeth Cymru yn edrych ar ffyrdd o adeiladu ar yr arfer da sydd wedi'i gyflawni a'i ddatblygu yn fy rhan i o'r wlad, fel y gall ardaloedd eraill yng Nghymru hefyd elwa ar y mathau hyn o brosiectau, prosiectau olynol a chynlluniau tebyg, ym mha ffurf bynnag y bydd rhannau eraill o Gymru am ystyried eu gweithredu o bosibl.
I gloi, Lywydd, mae wedi bod yn bleser cymryd rhan yn y prosiect hwn hyd yma. Rwy'n mawr obeithio y bydd ei lwyddiant yn parhau ac y gallwn fwrw yn ein blaenau i ddarparu'r cymorth sydd ei angen ar dadau a'u plant yn Sir Fynwy ac ar draws Cymru yn awr ac yn y dyfodol.