Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:55 pm ar 5 Mehefin 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 1:55, 5 Mehefin 2018

(Cyfieithwyd)

Ni allaf gredu ei fod wedi dewis y tir hwn i ofyn cwestiynau. Gadewch i ni weld, er enghraifft, y sefyllfa sy'n bodoli yn Whitehall? Os ydych chi eisiau gweld arweinydd cloff, edrychwch ar Whitehall. Beth sydd gennym ni yn y fan honno? Mae gennym ni garfanau yn briffio yn erbyn ei gilydd yn gyhoeddus. Mae gennym ni bobl fel Boris Johnson yn beirniadu'r Prif Weinidog yn agored ar bolisi Brexit heb unrhyw fath o gosb. Byddai wedi bod allan ar ei union pe byddai wedi bod yn fy Llywodraeth i, gallaf ddweud hynny wrthych chi nawr. Mae gennym ni'r ffars yma nawr lle mae penderfyniad wedi ei wneud ar Heathrow lle rhoddwyd rhwydd hynt i Weinidogion Cabinet ymgyrchu yn erbyn hynny, gan nad oes digon o gefnogaeth yn y Cabinet i wneud penderfyniad ar y cyd. A phan ddaw i gyfrifoldeb ar y cyd, rydym ni'n gadarn yma o'n cymharu â'r cymundod anarchaidd sy'n bodoli yn Llundain.