Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:54 pm ar 5 Mehefin 2018.
A wnes i eich clywed chi'n iawn Prif Weinidog? Dywedasoch nad oes gennych chi safbwynt fel Llywodraeth. Oherwydd, yn amlwg, llofnodwyd llythyr gan ddau o'ch cyd-Aelodau yn y Cabinet yr wythnos diwethaf yn nodi eu bod nhw eisiau gweld refferendwm. Tybiais erioed bod Llywodraeth yn gweithredu ar sail cyfrifoldeb ar y cyd, ac rwy'n sicr wedi eich clywed chi'n dweud ar sawl achlysur fel arweinydd Llywodraeth Cymru nad ydych chi'n cefnogi ail refferendwm. Felly, does bosib nad oes cyfrifoldeb ar y cyd, ac mae cyd-Aelodau yn y Cabinet nawr, ar ôl i chi nodi eich bod chi'n gadael y swydd Prif Weinidog, yn dilyn eu hagendâu eu hunain. Pam nad yw cyfrifoldeb ar y cyd yn bodoli ar y mater penodol hwn?