Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:47 pm ar 5 Mehefin 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 1:47, 5 Mehefin 2018

(Cyfieithwyd)

Wel, ceir materion masnachol, wrth gwrs, y bydd arweinydd Plaid Cymru yn ymwybodol ohonynt. Yr hyn y gallaf ei ddweud, fodd bynnag, yw y bydd KeolisAmey, am £150 miliwn, yn darparu masnachfraint rheilffyrdd i Gymru a'r gororau am lai na'r gost bresennol o £185 miliwn. Mae'n fuddsoddiad gwerth cyfanswm o £738 miliwn hefyd yng nghyfnod 2 y metro, a'r hyn y byddwn yn ei weld, am y tro cyntaf, yw system reilffyrdd y mae pobl Cymru yn ei haeddu ac nid elfennau ail law o rwydweithiau eraill.