Part of the debate – Senedd Cymru am 4:23 pm ar 5 Mehefin 2018.
Does bosib y daw'r amser, ar ôl tair blynedd o fesurau arbennig, pan nad yw arbennig yn arbennig mwyach ac rydych chi'n symud i gyflwr o danberfformio parhaol. Felly, credaf mai'r cwestiynau allweddol ar hyn o bryd yw: beth yw'r arwyddion y dylai cleifion fod yn chwilio amdanyn nhw? Beth yw'r arwyddion y dylai staff fod yn edrych amdanyn nhw i ddangos fod Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yn troi yn ôl at y trywydd cywir? Oherwydd mae'r dystiolaeth yn ymddangos yn brin iawn ar hyn o bryd.