Part of the debate – Senedd Cymru am 5:02 pm ar 5 Mehefin 2018.
Rydw i yn yr un lle, Weinidog, ynglŷn â'r peswch yma.
Diolch am y datganiad yma. A gaf i jest ddechrau gyda lle rŷm ni'n cytuno, efallai? Mae'r broses ar gyfer gweithredu'r safonau yn gostus ac yn fiwrocrataidd a hoffwn—ac rwy'n fwy na bodlon—eich cefnogi chi gydag unrhyw ddiwygiad i hynny. Ond beth sydd hefyd yn gostus, wrth gwrs, yw gofyn i'r comisiynydd gynnal ymchwiliadau safonau ar gannoedd o sefydliadau o fewn rowndiau 3 a 4 yr amserlen, derbyn adroddiadau'r ymchwiliadau hynny yn 2016-17, ac wedyn ddim gweld unrhyw gamau gan y Llywodraeth ar gefn hynny. Felly, y cwestiwn cyntaf i fi yw: sut ydych chi'n mynd i ddefnyddio'r wybodaeth yn yr adroddiadau yna mewn unrhyw ffordd ystyrlon? Os yw'r adroddiadau hyn yn mynd, yn y bôn, yn syth i'r bin, neu os bydd hyn yn digwydd, wel, faint o arian ydych chi wedi'i wastraffu gyda'r broses yma?
Er yr hoffech feddwl bod y sefydliadau yna wedi dechrau paratoi ar gyfer cyrraedd y safonau newydd, maen nhw'n debygol o weld y cyhoeddiad heddiw fel esgus i atal gwneud mwy o hynny nawr, a jest atal beth maen nhw wedi'i wneud yn barod. Sut fyddwch chi'n gweithredu nawr—ac rydw i'n meddwl nawr—i'w hannog i barhau i fynd ymlaen â'u cynlluniau?
Nid oes dim byd newydd yn y datganiad i'm mherswadio o ran pwrpas creu comisiwn newydd, mae'n rhaid imi ddweud. Nid oedd yr ymatebion i'r ymgynghoriad yn ffafrio hyn, yn arbennig o ran opsiynau eraill, ac mae'n parhau i fi i fod yn gwbl aneglur pa mor annibynnol fydd y corff hwnnw. Ac mae hyn yn bwysig, achos os nad yw'n gwbl annibynnol, nid ydych chi'n datrys y broblem hon, sef na ddylai'r corff sy'n gwneud y rheolau fod y corff sy'n gorfodi'r rheolau, ac ni ddylai'r deddfwr fod yn orfodwr deddfwriaeth. Ar hyn o bryd, mae rhwystrau a gwrthbwyso yna: mae'r Llywodraeth yn gwneud y rheolau, mae'r comisiynydd yn eu gorfodi. Os nad yw'r comisiwn newydd hwn yn gwbl annibynnol ar Lywodraeth—. Nid yw hyd braich yn ddigon—mae'n anniogel o safbwynt cyfansoddiadol.
Fel y gwyddoch, mae gan y comisiynydd ddyletswyddau hyrwyddo hefyd, ac mae'r Gweinidog blaenorol, wrth gwrs, wedi ei gwneud hi'n anodd i'r comisiynydd gyflawni'r dyletswyddau statudol hynny, ond gellir eu hadfer. Felly, yn y bôn, beth yw’r gwahaniaeth rhwng eich comisiwn a’r comisiynydd? Beth sy’n eich atal rhag diwygio swyddfa’r comisiynydd yn lle ei disodli? Byddai diwygiad yn caniatáu i gomisiynydd arwain newid diwylliannol, ac rydym yn cytuno ar y dyhead hwnnw. Mae lle hefyd, fel rydym wedi trafod o’r blaen, i ehangu pwerau lled-farnwrol y comisiynydd i greu comisiynydd ieithoedd, i sicrhau nad yw deddfwriaeth hawliau’n cael ei gweithredu mewn ffordd wahaniaethol.
Diolch am y diweddariad ar y rhaglenni cyfredol. Mae’r cwymp yn nifer yr athrawon sy’n mynd ymlaen i addysgu Cymraeg, neu i addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg, i fi yn fygythiad clir a chyfredol i lwyddiant Cymraeg 2050. Rydym hanner ffordd, nawr, trwy dymor y Cynulliad hwn, ond dim ond nawr rŷch chi’n cyflwyno cymhelliant o £5,000 i helpu sortio hynny mas. Felly, pryd y gallwch chi ddweud bod gan y cynllun hynny effaith sylweddol? Achos rwy’n gwerthfawrogi beth rŷch chi wedi’i ddweud ynglŷn â’r cyfalaf, ond mae yna broblem yma gyda nifer y bobl sy’n fodlon gwneud y gwaith. Mae gyda fi yr un pryderon ynglŷn â’r gweithlu addysg ag y cawsoch chi ynglŷn â’r gweithlu iechyd. Mae'n dal yn broblem ac mae’n anodd wynebu hynny, rydw i’n credu.
Yn olaf, fel y gwyddoch, heb ymrwymiad gan y byd gwaith a chyflogaeth, ymhob sector, nid dim ond yn y sector preifat, i greu amgylchedd gweithio dwyieithog, mae gennym ni fygythiad clir a chyfredol arall i Cymraeg 2050. Felly, a allech chi ddweud tipyn bach mwy am y cynllun Cymraeg Gwaith? Beth sy’n eithriadol am y galw a beth yw’r lledaeniad daearyddol? Yn bwysicach, sut y gallwn ni fesur a fydd y galw’n mynd i gynhyrchu siaradwyr sydd tipyn bach mwy hyderus ac sy’n fodlon iwso eu Cymraeg yn amlach? Yn benodol, beth y dylech chi a ni ei ystyried yn ganlyniad da ym mentrau bach a chanolig? Diolch.