5. Datganiad gan Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes: Diweddariad ar Flaenoriaethau'r Iaith Gymraeg

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:10 pm ar 5 Mehefin 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Siân Gwenllian Siân Gwenllian Plaid Cymru 5:10, 5 Mehefin 2018

Fe gafwyd gwledd Gymraeg yr wythnos diwethaf wrth i gystadleuwyr Eisteddfod yr Urdd ddod at ei gilydd i ddathlu eu Cymreictod—pobl ifanc o bob rhan o Gymru, yn ddysgwyr ac yn siaradwyr iaith gyntaf. A'r nodwedd oedd yn eu huno nhw oedd hyder—hyder yn y Gymraeg a hyder yn eu Cymreictod. Rydw i'n credu bod hyder yn allweddol i ddyfodol y Gymraeg, a dyna pam rydw i'n anghytuno â'r cyfeiriad sy'n cael ei awgrymu gan eich datganiad chi heddiw.

Oes, mae eisiau dathlu, hyrwyddo, hybu, ac yn wir mae nifer o'r pethau sy'n cael eu crybwyll yn y datganiad heddiw yn bethau mae Plaid Cymru wedi eu sicrhau drwy gytundeb cyllideb—£2 filiwn i Mudiad Meithrin a'r buddsoddiad yng ngwaith y Ganolfan Dysgu Cymraeg Cenedlaethol—ond hefyd mae'n rhaid datblygu hawliau siaradwyr Cymraeg, i roi statws ac i greu mwy o hyder. Mae honno yn rhan bwysig o'r ymgyrch i greu 1 filiwn o siaradwyr. Mae'r gwaith wedi ei gychwyn, mae angen ei ledaenu, a law yn llaw efo hynny mae angen buddsoddi mewn ymgyrchoedd i hyrwyddo'r Gymraeg, mae angen buddsoddi mewn tyfu addysg Gymraeg, fel bod pob plentyn yn datblygu sgiliau yn nwy iaith ein gwlad ni, a'r rheini yn sgiliau llawn, ac mae angen buddsoddi i gynnal cymunedau lle mae'r Gymraeg yn iaith bob dydd. Y blaenoriaethau yna i gyd, o'u plethu efo'i gilydd, a fydd yn arwain at 1 filiwn o siaradwyr. Nid ydy gollwng un elfen, sef gwanio hawliau, er mwyn cyllido elfen arall yn strategaeth uchelgeisiol, ac nid ydy o'n debygol o lwyddo i gyrraedd y nod. Felly, o ystyried llwyddiant y safonau iaith hyd yma, pam ydych chi'n cefnogi ymgais i wanio, i lastwreiddio ac i wadu hawliau pobl Cymru i'r Gymraeg? Dyma ydy byrdwn eich datganiad chi heddiw yma.

Wrth lansio'r Papur Gwyn, mi oedd eich rhagflaenydd chi wedi gobeithio y byddai'r cynigion yn dod â chonsensws, ond ers hynny rydym ni wedi gweld chwalu'r consensws yna a'r gefnogaeth unfrydol a roddwyd i Fesur presennol y Gymraeg gan Aelodau'r Senedd yma yn 2011 yn diflannu, a'r bygythiad yn dod yn sgil darn o ddeddfwriaeth ar y Gymraeg a fyddai, mewn gwirionedd, yn mynd â ni nôl i Gymru 1993 y Torïaid, yn hytrach nag ymlaen i Gymru hyderus 2050 a'r 1 filiwn o siaradwyr.

Hoffwn i wybod, felly, faint o gefnogaeth sydd yna o blith siaradwyr Cymraeg i'r cynigion i wanhau'r hawliau. Yn yr ymgynghoriad cyhoeddus a gafodd ei gynnal y llynedd, dim ond 77—so, rydw i'n ateb eich cwestiwn chi i raddau fan hyn—dim ond 77 o'r 504 ymateb a oedd yn cefnogi'r cynnig i ddisodli'r comisiynydd efo comisiwn, sef 15 y cant o'r ymatebion. Mae yna farc cwestiwn mawr, felly, a oes yna unrhyw gefnogaeth i'r cynigion yma, heb sôn am gyfiawnhad i baratoi Bil.

Mae eich datganiad chi'n cyhoeddi'ch bwriad i benodi comisiynydd newydd, penodiad o saith mlynedd o dan Fesur y Gymraeg. Mi ydych chi wedi bod yn canmol effaith bositif y safonau. Rydw i'n credu mai un effaith positif yn deillio o'r safonau ydy creu gweithlu Cymraeg ar draws sectorau a chreu mannau gwaith Cymraeg. Felly, mae'n anodd deall pam y byddech chi am golli momentwm drwy beidio â chaniatáu i'r comisiynydd newydd fwrw ymlaen efo'r gwaith o osod rhagor o safonau. Mae safonau'r cwmnïau dŵr yn eistedd ar eich desg chi, mae'r cymdeithasau tai yn aros o hyd am safonau, ac, yn wir, mi allech chi basio Gorchmynion fory nesaf i ychwanegu cyrff o bwys at setiau o reoliadau sydd eisoes wedi cael eu pasio—cyrff megis Cymwysterau Cymru, Awdurdod Cyllid Cymru, comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol, Addysg a Gwella Iechyd Cymru, ac yn y blaen. A gaf i awgrymu eich bod chi'n cadarnhau eich ymrwymiad i'r safonau drwy ddod â Gorchmynion i'r Cynulliad hwn ar y cyfle cynharaf?

Mae cynnal hygrededd y safonau a'r gyfundrefn sy'n gwarantu hawliau i'r Gymraeg yn allweddol, ac mi ydych chi'n sôn na fyddwch chi'n rhwyfo nôl o'r safonau, na chwaith ar annibyniaeth y rôl reoleiddio mewn unrhyw gorff newydd, ond mae eich cynigion chi am gomisiwn y Gymraeg yn golygu mai Llywodraeth Cymru fyddai'n gosod y safonau; Llywodraeth Cymru fyddai'n penodi aelodau'r comisiwn; Llywodraeth Cymru fyddai'n gosod ei gyllideb; Llywodraeth Cymru fyddai'n cymeradwyo ei gynllun strategol; a Llywodraeth Cymru fyddai efo'r grym i gyfarwyddo'r corff newydd yma. Rŵan, ai dyna'ch diffiniad chi o 'annibynnol'? Nid dyna ydy fy niffiniad i.

Rydw i'n gorffen efo un darn bach arall. O ran datblygu'r Gymraeg yn y sector breifat, mi gytunodd y Cynulliad hwn y llynedd y dylid ymestyn y safonau iaith i'r sector breifat. Heddiw, rydych chi'n sôn am ddarbwyllo arweinwyr busnes i ddefnyddio'r Gymraeg, ac y dylai'r comisiwn arwain ar hynny. Mi fuodd Bwrdd yr Iaith yn ceisio perswadio yn ddyfal am 15 mlynedd. Sut ydych chi'n credu y byddwch chi'n llwyddo i ddarbwyllo busnesau mawr efo'r foronen yma rydych chi'n sôn amdani hi, er bod y cyrff eu hunain, y busnesau eu hunain, yn dweud mai i orfodaeth yn unig y byddan nhw'n ymateb?