Part of the debate – Senedd Cymru am 5:16 pm ar 5 Mehefin 2018.
Diolch yn fawr, Siân. Fe fues i yn Eisteddfod yr Urdd yr wythnos diwethaf hefyd, ac rydych chi'n eithaf reit: roedd yna lot o blant yna a oedd gyda lot o hyder. Beth sy'n fy mhoeni i yw nid y plant a oedd yn yr Eisteddfod yr wythnos diwethaf, ond y cannoedd o filoedd sy'n mynd i ysgolion Cymraeg nad oedd yn yr Eisteddfod: rheini sydd ddim â'r hyder. Rheini yw'r rhai y mae'n rhaid i ni eu darbwyllo, a dyna pam rydw i'n meddwl nad yw gorfodi pobl i wneud pethau ddim yn mynd i'n elwa yn y pen draw. Mae'n rhaid i ni ddarbwyllo pobl mai dyma'r cyfeiriad cywir, a dyna pam mae'r newid pwyslais yma yn hollbwysig.
Rydw i eisiau ei gwneud hi'n glir nad ydym ni'n gollwng y safonau; nid ydym yn camu nôl o'r safonau. Bydd digon o waith gan y comisiynydd presennol, a'r un newydd, i sicrhau a gweithredu'r safonau iechyd newydd. Mae lot fawr o waith a fydd yn ymwneud â'r rheini. Ond, y gwahaniaeth yw y byddwn ni'n rhoi blaenoriaeth i hybu a hyrwyddo, ac nid wyf yn mynd i esgusodi fy hunan na Llywodraeth Cymru am hynny.
Roeddech chi'n dweud bod yr ymatebion rydym ni wedi'u cael i'r Papur Gwyn wedi bod yn wahanol. Beth ddigwyddodd, actually, oedd ein bod ni wedi gwneud gwahaniaeth a gwahaniaethu rhwng ymatebion sy'n rhan o ymgyrch ac ymatebion sy'n dod o unigolion. Ac o ran y rheini a ddaeth o unigolion, roedd yn glir bod y mwyafrif o blaid symud i system a fyddai'n rhoi blaenoriaeth i hybu a hyrwyddo.
A gaf i fod yn hollol glir? Nid Llywodraeth Cymru fydd yn gyfrifol am benodi'r person a fydd yn gyfrifol yn y comisiwn newydd am blismona'r safonau. Rydw i eisiau ei gwneud hi'n hollol glir, ac mae hwn yn rhywbeth rydw i wedi ei wneud yn glir iawn i'r swyddogion: mae'n rhaid i'r person yna fydd yn gyfrifol am blismona fod yn hollol annibynnol. Felly, nid y Llywodraeth fydd yn cymryd rhan yn y penodiad yna o'r person fydd â chyfrifoldeb. Diolch.