6. Datganiad gan Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip: Diweddariad ar y Rhaglen Swyddi Gwell yn Nes at Adref

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:31 pm ar 5 Mehefin 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Julie James Julie James Labour 5:31, 5 Mehefin 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch i chi, Dirprwy Lywydd.

Pan ffurfiodd y Prif Weinidog y Llywodraeth Cymru hon ym mis Mai 2016, fe'i gwnaeth yn glir mai un o flaenoriaethau canolog y weinyddiaeth fyddai creu swyddi gwell yn nes at adref. Roedd yn gyfarwyddyd i'r holl Weinidogion, ar draws y Llywodraeth, i ledaenu cyfleoedd ledled Cymru gyfan ac i ddefnyddio pob dull o ddylanwadu datganoledig a oedd ar gael i gefnogi'n greadigol yr uchelgais honno. Roedd hynny'n golygu gweithio mewn ffyrdd newydd, ar draws portffolios Gweinidogol a chwalu seilos traddodiadol Llywodraeth i greu cyfleoedd swyddi arwyddocaol pan nad oedd y farchnad yn gallu gwneud hynny. Un o'r cyfrifoldebau pwysicaf a roddwyd i mi ar yr adeg honno oedd cynyddu ymhellach y syniad newydd a gawsom gan Gyngres Undebau Llafur Cymru i ddefnyddio pŵer gwario caffael cyhoeddus, a thrwy ddefnyddio contractau neilltuedig, defnyddio'r dull hwnnw o ddylanwadu i greu swyddi mewn ardaloedd lle mae'r angen am gyflogaeth yn uchel. Roedd y syniad yn un syml. Yn ogystal â darparu cyfleoedd gwaith newydd i unigolion oedd eu hangen nhw, gallem hefyd ychwanegu pecynnau cymorth unigol i gyd-fynd â'r cyfleoedd a chanolbwyntio ar y rhwystrau penodol sy'n eu hatal rhag cael gwaith a symud ymlaen i swyddi sy'n talu'n well.

Mewn nifer o ffyrdd, nid yw'r syniad yn newydd. Rydym wedi sôn sawl gwaith, ar draws y pleidiau, am y posibilrwydd o ddefnyddio pŵer gwario arferol y Llywodraeth yn y modd hwn. Yr her, fel erioed, yw sut i wneud hwnnw weithio'n ymarferol ar lawr gwlad. Roedd rheolau cymorth gwladwriaethol, canllawiau caffael, cyfraith contract, rheoliadau Ewropeaidd a chyfres o rwystrau ymarferol eraill yn aml yn ei gwneud hi'n anodd troi syniad da yn newid ymarferol yn ein cymunedau. Felly, gan weithio gyda thîm dawnus ac arloesol o swyddogion Llywodraeth Cymru, ynghyd â phartneriaid cymdeithasol ym mudiad yr undebau llafur ac mewn diwydiant, dros y ddwy flynedd diwethaf, rydym wedi bod yn datblygu cyfres o raglenni arbrofol a allai ein helpu i ddatrys llawer o'r problemau ymarferol hyn a phrofi, drwy nifer fechan o raglenni masnachol wedi eu monitro yn ardal tasglu'r Cymoedd, cyfres o wahanol fodelau i weld sut y gellid datblygu ymyraethau o'r fath.

Canlyniadau'r gwaith hwnnw yw'r hyn a gyflwynaf i'r Aelodau yma heddiw. Rydym yn bwrw ymlaen â phedwar prosiect arbrofol. Er nad ydynt, ar eu pennau eu hunain, ond yn cynrychioli dim ond cyfran fechan o gyllideb caffael flynyddol Llywodraeth Cymru o £6 biliwn ac o gyfanswm y gyllideb gyffredinol o £15 biliwn, rwy'n credu y gallent gyflwyno gwersi cyffrous ynglŷn â sut i ddefnyddio pŵer gwario'r Llywodraeth yn y dyfodol mewn modd defnyddiol i greu mwy o swyddi a rhai gwell yn nes at adref.

Mae'r cyntaf o'r cynlluniau arbrofol hyn yn ceisio datblygu canolfan i weithgynhyrchu dillad arbenigol. Gan weithio mewn partneriaeth â'r sector cymdeithasol, byddwn yn penodi menter gymdeithasol i weithredu uned weithgynhyrchu yng Nglynebwy gan gynhyrchu dillad arbenigol ar gyfer pen ucha'r farchnad. Un enghraifft o'r math o gynnyrch y gallai'r uned hon ei gynhyrchu yw dillad gwaith diogelu awyr agored, gan ddefnyddio tecstilau sy'n gallu anadlu a gwrthsefyll crafiadau, ar gyfer eu defnyddio mewn diwydiannau megis gwaith ffordd. Bydd yr uned weithgynhyrchu yn gweithredu fel marchnad lafur drosiannol sy'n canolbwyntio ar bobl, gyda'r nod o gynyddu cyflogadwyedd hirdymor yn yr ardal gyfagos, a chefnogi'r rhai hynny sy'n dyheu am gael gwaith, ac aros mewn gwaith a datblygu. Manteision y dull hwn o weithredu yw'r gallu i ailfuddsoddi elw yn y busnes neu yn y gymuned leol, i sicrhau pan fydd busnes yn elwa bod y gymdeithas yn elwa hefyd.

Ystyriwyd y rhwystrau i gyflogaeth, gan gynnwys sut y gellir eu goresgyn drwy'r cynllun arbrofol hwn. Mae lleoliad yr uned ffatri sydd ar gael, er enghraifft, rhyw bum munud ar droed o'r cysylltiadau bysiau a threnau.

Rydym wedi sefydlu perthynas waith gref gydag ardal fenter Glynebwy fel y gellir rhoi gwybodaeth yn gynnar i bobl leol am unrhyw gyfleoedd cyflogaeth tymor hir.

Rwyf yn falch o adrodd y disgwylir cwblhau'r broses o benodi partneriaid cymdeithasol yn ystod yr haf, ac rwy'n disgwyl i'r ffatri fod yn weithredol erbyn hydref eleni. Y bwriad cychwynnol yw cyflogi 25 o bobl, gan ddisgwyl iddyn nhw symud ymlaen i gyflogaeth gynaliadwy tymor hwy drwy hyfforddiant a phrofiadau ymarferol yn y gweithle.

Rydym yn gweithio'n galed i ddatblygu cyfleoedd pellach er mwyn i'r cwmni hwn fod yn gyflenwr gwerthfawr o fewn y sectorau cyhoeddus a'r sectorau preifat a chynyddu nifer ei weithwyr. Pan allwn ni, fe fyddwn yn defnyddio'r dulliau dylanwadu hynny sydd ar gael i gynorthwyo yn hyn o beth, er enghraifft drwy gontractau'r sector cyhoeddus megis Trafnidiaeth Cymru — un arwydd yn unig o'n hymrwymiad fel Llywodraeth Cymru i'r cynlluniau arbrofol wrth inni ddefnyddio ein systemau contractio ein hunain.

Mae'r ail brosiect arbrofol yn cynnwys uned sy'n cynhyrchu arwyddion traffig ac arwyddion masnachol megis arwyddion priffyrdd, enwau strydoedd, arwyddion diogelwch a byrddau hysbysu. Mae hon yn fenter gymdeithasol sy'n bodoli eisoes ac sy'n cyflogi pobl ag anableddau, a'r nod yw cynyddu oriau gwaith y gweithlu presennol. Bydd yr oriau gwaith yn cynyddu o ganlyniad i drafodaethau, a gafodd eu trefnu gan fy nhîm Swyddi Gwell, rhwng yr uned a chadwynau cyflenwi ledled Cymru gyda'r nod o archebu oddi wrthynt. Mae'r trafodaethau yn bennaf gyda chontractwyr haen gyntaf sy'n cael archebion gan y sector cyhoeddus i gwblhau gwaith, yn hytrach na chan brynwyr yn y sector cyhoeddus. Targedir y cyflenwyr hyn yn fwriadol i sbarduno telerau ac amodau budd cymdeithasol a chymunedol sy'n rhan annatod o gontractau a fframweithiau'r sector cyhoeddus yn unol â'n polisi caffael cyhoeddus.

Rwyf yn falch fod y galw ychwanegol am gynhyrchion y prosiect arbrofol hwn eisoes wedi arwain at archebion o'r ffatri gan brif gontractwyr awdurdod lleol, gyda'r awdurdodau lleol yn cefnogi fy swyddogion yn y trafodaethau hyn, ac rwyf yn ddiolchgar am hyn. Rwyf hefyd yn falch o hysbysu Aelodau'r Cynulliad fod Trafnidiaeth Cymru wedi mynnu bod y ffatri hon yn cael ei defnyddio ar gyfer ei gofynion o ran arwyddion pan fydd y gweithredwr penodedig yn cyrraedd cyfnod teithiol y contract gweithredwr trên newydd. Mae'r archebion hyn i'w croesawu; fodd bynnag, i sicrhau sefydlogrwydd ariannol yn y sefydliad hwn, mae swyddogion yn ymchwilio i archebion tymor byrrach hefyd, ac mae'r rhain yn cynnwys contractwr ystâd gweinyddiaeth Llywodraeth Cymru, Asiantaeth Cefnffyrdd De Cymru a Chomisiwn y Cynulliad ei hun.

Paent wedi'i ail-beiriannu yw'r agwedd arbenigol ar fusnes y trydydd prosiect arbrofol. Mae fy nhîm Gwell Swyddi yn sefydlu cerbyd dibenion arbennig i ail-beiriannu paent gwastraff a gesglir o safleoedd gwastraff awdurdodau lleol ledled Cymru. Bydd hyn yn dwyn ynghyd perchennog y patent ar gyfer y broses o ail-beiriannu a menter gymdeithasol leol i atgynhyrchu eu gwaith, sydd wedi ei leoli ym Mirmingham ar hyn o bryd. Byddan nhw'n gweithredu'r un broses o barc eco Bryn Pica o fewn ffiniau Cyngor Rhondda Cynon Taf. Mae hyn yn golygu y gellir casglu paent gwastraff o Gymru, ei ail-beiriannu a'i ailddefnyddio yng Nghymru. Mae hyn yn cyd-fynd â'n hagenda datgarboneiddio — bydd pob litr o baent sydd yn cael ei ail-beiriannu yn cynnwys 1.3kg yn llai o garbon wedi ei ymgorffori yn y cynnyrch hwn.

Mae cynllunio cynnar ar y llwybr i gyflogaeth yn mynd rhagddo, a menter gymdeithasol wedi ei lleoli ym Merthyr Tudful fydd y sefydliad sy'n lletya. Mae fy swyddogion hefyd yn gweithio gyda phartneriaeth sgiliau Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, sydd wedi amlygu prinder busnesau paentio ac addurno yn y rhanbarth.

Yn olaf, mae ein pedwerydd prosiect arbrofol yn canolbwyntio ar ailgylchu papur. Mae'n seiliedig ar fenter gymdeithasol sy'n bodoli eisoes ac sy'n cyflogi pobl anabl, y digartref a'r rhai sydd wedi bod yn ddi-waith am dymor hir. Mae'n gweithredu fel marchnad lafur drosiannol. Mae'r cwmni'n casglu, trefnu a rhwygo papur gwastraff ond mae angen tunelli yn fwy o bapur i gynyddu cyfleoedd cyflogaeth o fewn y sefydliad ac er mwyn iddo fod yn hunangynhaliol yn ariannol. Mae'r tîm yn parhau i weithio ar draws y sector cyhoeddus i godi ymwybyddiaeth o'r sefydliad hwn a'i wasanaethau. Rwy'n falch iawn fod y tîm eisoes wedi cael ymrwymiad gan awdurdod lleol i ddarparu mwy o bapur gwastraff i'r cwmni; mae hyn yn llwyddiant cynnar i'r cynllun arbrofol hwn.

Dirprwy Lywydd, yr wyf am gloi drwy nodi bod gan bob un o'r cynlluniau arbrofol wahanol fecanwaith ymyrraeth, a gosodwyd pob un o fewn ardal tasglu'r Cymoedd. Cynllunnir hyn yn fwriadol er mwyn inni gael amrywiaeth profedig o ymyraethau masnachol mewn ardaloedd o ddiweithdra uchel yn gyntaf, ac y gellir mesur llwyddiant y safle arbrofi cyfleoedd hwn ac, o bosibl, ei ailadrodd mewn mannau eraill yng Nghymru.

Byddwn yn hapus i hysbysu'r Aelodau am unrhyw gynnydd, ac edrychaf ymlaen at rannu llwyddiant y cynlluniau arbrofol gyda chi wrth iddynt ddwyn ffrwyth. Diolch yn fawr.