6. Datganiad gan Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip: Diweddariad ar y Rhaglen Swyddi Gwell yn Nes at Adref

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:47 pm ar 5 Mehefin 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Julie James Julie James Labour 5:47, 5 Mehefin 2018

(Cyfieithwyd)

Rwyf yn falch bod Leanne Wood wedi dechrau drwy ddweud ei bod yn cefnogi'r fenter Gwell Swyddi yn Nes at Adref, ac nid oeddwn yn hollol sicr o glywed gweddill ei chyfraniad sut yr oedd hi yn cefnogi hynny.

O ran y strategaeth gaffael, ni ddywedais ei bod yn rhwystr; dywedais fod nifer o bethau yr oedd yn rhaid i ni eu hystyried wrth lunio cynllun sy'n caniatáu i Lywodraeth Cymru ddefnyddio ei gwariant caffael a'i dylanwad caffael i sefydlu ymyrraeth i'r farchnad er mwyn creu gwaith i bobl a oedd yn dod ar draws rhwystrau cyflogaeth difrifol mewn ardaloedd o ddiweithdra uchel. Cytunaf yn llwyr â chi y ceir ardaloedd o ddiweithdra uchel ledled Cymru, a bod nifer fawr o gymunedau sydd â rhwystrau gwahanol a phroblemau gwahanol. Yr hyn yr ydym ni'n ei wneud yn y fan yma yw treialu pedwar prosiect gwahanol sy'n ymdrin â gwahanol ffyrdd o ymyrryd yn y farchnad, fel y gallwn eu defnyddio fel cynlluniau arbrofol gwirioneddol i weld pa un a ydynt yn gweithio, ac i weld a oes modd eu hehangu, neu i weld, er enghraifft, os ydynt yn bethau penodol wedi eu seilio ar leoliad, oherwydd fe fyddai gan rai cymunedau fwyafrif mawr o sgiliau penodol a theimlad cymunedol gweddilliol tuag at ardal benodol, er enghraifft. Un o'r rhain yw'r cynllun ym Merthyr Tudful sydd eisoes yn bodoli, ac rydym yn gobeithio ei droi yn fenter fwy o lawer drwy ddefnyddio ein dylanwad.

Felly, ni ddywedais fod y rheolau yn rhwystr. Nid wyf i'n credu bod y portread o beth fydd yn digwydd o ganlyniad i'r sefyllfa yn sgil y Bil ymadael yn un yr wyf i'n cytuno ag ef o gwbl. Nid wyf wir yn credu bod ras i'r gwaelod heb unrhyw reolau ledled y DU ar gyfer sut y byddem yn ymyrryd mewn diwydiant lleol, neu sut y byddem yn cael rheolau gwariant caffael rhag i drefi a phentrefi ddechrau cystadlu yn erbyn ei gilydd, yn sefyllfa gynaliadwy. Rwyf yn sicr nad yw arweinydd Plaid Cymru mewn gwirionedd yn dweud y byddai honno'n sefyllfa y gallai unrhyw un ohonom ei derbyn. Mae'n amlwg ei bod yn fuddiol i ni i gyd gael cyfres o reolau sydd yn caniatáu i ni gefnogi ein poblogaeth leol a chael ffyniant economaidd, heb gymryd rhan mewn ras i'r gwaelod neu ras i frig y swm o arian sydd gennych i gynnig i bob cyflogwr i ddod i'ch ardal leol, ac rwy'n sicr nad oedd hi'n bwriadu awgrymu hynny.

O ran y system drafnidiaeth, wrth gwrs, rydym wedi edrych yn ofalus iawn i ganfod beth yw'r cysylltiadau trafnidiaeth ar gyfer pob un o'r canolfannau hyn, oherwydd mae nifer fawr o'r problemau, er enghraifft gyda'r Cymoedd uwch, yn ymwneud â chyflymder cysylltiadau trafnidiaeth i ganolfannau cyflogaeth. Ond nid yw hyn yn ymwneud â chysylltiadau trafnidiaeth; mae hyn yn ymwneud â chael swyddi ym y man y mae'r bobl yn byw ynddo eisoes, yn enwedig y rhai sy'n wynebu nifer o rwystrau megis pobl â chyfrifoldebau gofalu, sydd yn bennaf yn fenywod, neu bobl sydd wedi bod yn economaidd anweithgar ers cryn amser. Gall unrhyw fath o gostau trafnidiaeth neu rwystr fod yn broblem wirioneddol. Felly, mae'r rhain yn canolbwyntio ar geisio cael gwaith yn lleol i bobl leol. Rwyf yn fodlon iawn â'r cynlluniau arbrofol ac rwy'n gobeithio'n fawr y gallaf ddod yn ôl i adrodd stori wirioneddol dda yr adeg hon y flwyddyn nesaf ar ôl inni gael blwyddyn gyfan i weithredu, ond os na fydd stori dda gennym yna o leiaf gallwn fod yn dryloyw a dweud beth oedd y broblem a sut y gellid ei datrys drwy ddefnyddio rhai o'r dulliau dylanwadu sydd ar gael i ni.