6. Datganiad gan Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip: Diweddariad ar y Rhaglen Swyddi Gwell yn Nes at Adref

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:57 pm ar 5 Mehefin 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jenny Rathbone Jenny Rathbone Labour 5:57, 5 Mehefin 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch ichi, Dirprwy Lywydd. Rwy'n credu ei fod yn ddatganiad diddorol iawn. Rwy'n falch iawn o glywed am y pedwar cynllun peilot hyn, ond rwy'n amlwg yn teimlo'n rhwystredig nad ydyn ni wedi gallu ymestyn hyn ymhellach, oherwydd mae'n wych ein bod i'n cael busnesau newydd yn dod i'r Cymoedd, ond i lawer o fy etholwyr i, mae gorfod teithio mwy na hanner awr yn rhwystr gwirioneddol i weithio, oherwydd po bellaf y mae'n rhaid i chi deithio, po fwyaf y mae'n rhaid i chi ei dalu am ofal plant a pho anoddaf y mae'n gwneud yr hafaliad o allu fforddio i fynd i weithio.

Felly, mewn gwirionedd, hoffwn glywed ychydig mwy am y rhwystrau i'w brif-ffrydio, oherwydd byddwn i wedi meddwl ei fod yn rhywbeth y byddai Ffederasiwn y Busnesau Bach a Chanolfan Cydweithredol Cymru yn frwdfrydig iawn drosto. Ac mae'n rhaid iddo fod yn unol â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, nad oes yn rhaid i bobl deithio mwy na hanner awr fel arfer i gyrraedd y gwaith, oherwydd ei bod yn ddrwg i'w hiechyd, yn wael i'r amgylchedd ac yn bendant nid yw'n beth da i blant, oherwydd mae'r amser a gymer yn amser nad ydych chi'n cael ei dreulio gyda'ch plant. Felly, byddai gennyf ddiddordeb clywed beth yw'r rhwystrau y gallwn ni eu goresgyn.