6. Datganiad gan Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip: Diweddariad ar y Rhaglen Swyddi Gwell yn Nes at Adref

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:58 pm ar 5 Mehefin 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Julie James Julie James Labour 5:58, 5 Mehefin 2018

(Cyfieithwyd)

Mae'r Aelod yn gwneud nifer o bwyntiau, ac mae'n nod gan y cynlluniau peilot hyn i geisio edrych ar y pethau hyn. Ac rwy'n pwysleisio'r pwynt 'peilot' yma. Dydw i ddim eisiau gorbwysleisio'r rhwystrau a wynebwyd gennym ni i gyrraedd y pwynt hwn, ond ni fu'n hawdd creu pedwar cynllun peilot ar wahân gan ddefnyddio gwahanol drefniadau caffael a gwahanol ysgogiadau gwariant y Llywodraeth er mwyn gwneud hynny.

Ond rwy'n pwysleisio'n bendant mai'r hyn yr ydym ni'n edrych arno yma yw cynlluniau peilot gwirioneddol, oherwydd fy mod yn derbyn yn llwyr y pwynt y mae'r Aelod yn ei wneud: does dim amheuaeth nad yw hyn yn ymwneud â chael gwell swyddi yn nes at adref —mae'r gair 'nes' yn un mor bwysig—am yr union reswm hwnnw. Nid ydym ni eisiau i bobl deithio'n bell i'r gwaith. Hyd yn oed lle rydym ni'n hwyluso hynny, dydyn ni dal ddim eisiau hynny. Ac mewn gwirionedd, yr hyn y mae'r rhan fwyaf o gymunedau yn yr ardaloedd mwyaf gwledig yng Nghymru, ac weithiau canol y dinasoedd—rwyf hefyd yn cynrychioli ardal canol dinas sydd â phroblemau tebyg—yr hyn y mae ar bobl ei eisiau yw gallu cael swyddi da rownd y gornel o'u tŷ er mwyn iddynt gael cydbwysedd gwaith-bywyd, a gallu rhoi ystyriaeth i'w cyfrifoldebau gofalu a bod eu plant yn gallu mynychu ysgolion lleol ac ati.

Felly, nod mawr y cynlluniau peilot hyn yw gweld pa un a ydyn nhw'n gweithio ac, fel y dywedais i, a allwn ni wedyn eu hail-greu mewn cymunedau eraill, efallai fel hybiau cysylltiedig, efallai fel un busnes â nifer o safleoedd—nifer o bosibiliadau. Ac rydym ni wedi gweithio'n agos gydag amrywiaeth eang o randdeiliaid ar draws y Llywodraeth i gyrraedd y fan lle'r ydym ni nawr, ac yn sicr fe fyddaf i'n edrych ymlaen at adrodd yn ôl ar y cynlluniau peilot a'r mater hwn o'r gallu i dyfu yn unol â'r anghenion a pha un a oes modd eu lleoli mewn mannau eraill, a phopeth arall ymhen rhyw flwyddyn, pan fydd gennym rywfaint o ddata oddi wrthyn nhw.