Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 1:40 pm ar 6 Mehefin 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 1:40, 6 Mehefin 2018

(Cyfieithwyd)

Rydych yn gwneud yn fach o bethau braidd, ond fe wnaethoch chi ailddatgan safbwynt y Blaid Lafur, sef y dylai fod gennym ein hundeb tollau ein hunain wedi inni adael yr Undeb Ewropeaidd, yn hytrach nag undeb tollau'r UE. Nid hollti blew yw hyn—rydych yn sôn am undeb tollau newydd gydag esemptiadau penodol rhag cyfreithiau penodol yr UE. Nawr, buaswn yn dadlau bod hynny yr un mor anymarferol ag opsiwn 'max fac' enwog Theresa May. Byddai'n amhosibl, yn fy marn i, i'r UE dderbyn sefyllfa lle y gall gwlad nad yw'n rhan o'r UE fwynhau manteision llawn masnach ddiffrithiant gyda'r UE heb ddilyn holl reolau'r UE. Nawr, yn syml, nid yw safbwynt y Blaid Lafur, yn fy marn i, yn gwneud mwy na safbwynt y Torïaid i ddiogelu, yn yr achos hwn, y sector cydrannau ceir yng Nghymru. Ond i symud ymlaen, ni fyddai aelodaeth o'r undeb tollau ynddi'i hun hyd yn oed yn sicrhau masnach ddiffrithiant. Mae aelodaeth o'r farchnad sengl hefyd yn angenrheidiol ar gyfer hynny. A yw Llywodraeth Cymru yn dal i gredu mai bod yn aelod o farchnad sengl yr UE sydd orau er budd economi Cymru?