Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 1:42 pm ar 6 Mehefin 2018.
Wel, unwaith eto, rydym wedi dweud yn gwbl gyson ein bod yn credu y bydd arnom angen mynediad at y farchnad sengl wrth inni adael yr UE. Mewn perthynas â threfniant tollau, rydym hefyd wedi dweud yn glir iawn fod yn rhaid inni gael amgylchedd rheoleiddiol cyson ledled y DU ac Ewrop er mwyn sicrhau y gall nwyddau a gwasanaethau gael eu cludo'n rhwydd, a bod arnom angen trefniadau tollau rhwydd a di-dor hefyd.