Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 1:46 pm ar 6 Mehefin 2018.
Diolch am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet, ond o ran fy meirniadaeth flaenorol, credaf fod angen i'r cynllun gweithredu economaidd gynnwys targedau diriaethol y gellir eu cyflawni. Ond rwy'n deall yr hyn a ddywedwch o ran peidio â bod yn rhy rhagnodol o ran beth fyddai busnesau ei eisiau, ond nid yw hynny'n golygu nad yw hyn yn waith y gall y Llywodraeth ei wneud yma. Felly, hoffwn ofyn i chi, Ysgrifennydd y Cabinet, pa asesiad rydych wedi'i wneud o gynhwysedd cynhyrchiant trydan presennol Cymru ac o'i rhwydwaith ffyrdd presennol mewn perthynas â gallu'r seilwaith hwnnw i gynnal nifer fawr o gerbydau trydan yn y dyfodol yng Nghymru?