Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 1:47 pm ar 6 Mehefin 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour 1:47, 6 Mehefin 2018

(Cyfieithwyd)

Rwyf wedi cyfarfod â'r Grid Cenedlaethol ac mae'n eithaf clir fod angen buddsoddiad sylweddol i gryfhau'r grid os ydym am i ddatblygiad cerbydau trydan fynd rhagddo fel y byddem yn dymuno, ac yn sicr fel y byddem yn dymuno er mwyn lleihau allyriadau carbon. Dylid darparu'r buddsoddiad hwnnw yn ganolog a dylid ei ddarparu'n gyflym. O'n rhan ni, rydym yn ystyried datblygu mwy o bwyntiau gwefru trydan, ond o ran y grid, os ydym am sicrhau bod y targedau a amlinellwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr amgylchedd yn cael eu cyflawni, bydd rhaid cryfhau'r grid.

O ran trafnidiaeth a'r rhwydwaith ffyrdd, cefais fy nghofnodi'n dweud y buaswn yn hoffi gweld gwaith datblygu cefnffyrdd yn y dyfodol yn cysylltu â'r gwaith o brofi cerbydau awtonomaidd, cerbydau trydan a cherbydau cysylltiedig hefyd. Hoffwn weld Cymru'n achub y blaen ar wledydd eraill sy'n awyddus i ddefnyddio'r dechnoleg hon, ond sydd eto i ddangos dyhead cryf i wneud hynny.