Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 2:00 pm ar 6 Mehefin 2018.
Ysgrifennydd y Cabinet, efallai yr hoffech ymuno â mi i longyfarch is-ganghellor Prifysgol Caerdydd, Colin Riordan, a lansiodd eu strategaeth gynaliadwyedd heddiw a'r modd y maent am gynorthwyo staff y brifysgol a'r myfyrwyr i feicio rhwng cyfleusterau—ac fe feiciodd ef at y morglawdd, lle y lansiwyd polisi hwn ganddynt—a dyna sydd ei angen. Hefyd, mae angen i bobl allu beicio o gwmpas a rhwng eu cymunedau, nid rhwng cymuned a chanol dinas fawr yn unig, fel y gallwn gael mynediad da drwy lwybrau beicio at asedau cymunedol allweddol fel ysgolion, siopau ac amwynderau, ac yna byddwn yn normaleiddio hyn—mewn dinas fel Caerdydd, na allai fod wedi'i chynllunio'n well, mewn gwirionedd, ar gyfer beicio—fel ffordd ddewisol o deithio.